大象传媒

'Aflonyddu rhywiol wedi mynd ymlaen yn rhy hir'

  • Cyhoeddwyd
Cathy Owen claimed that political parties were protecting men who were harassing women
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cathy Owens yn honni bod pleidiau yn amddiffyn dynion sy'n aflonyddu'n rhywiol

Mae aflonyddu rhywiol wedi bod yn digwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru ers rhai blynyddoedd, medd cyn-ymgynghorydd i'r llywodraeth.

Mewn cyfweliad ar Sunday Politics Wales dywedodd Cathy Owens, sy'n rheoli asiantaeth ymgynghori wleidyddol Deryn, bod gwleidydd wedi ceisio mynd i'w gwely ar un achlysur.

Bydd arweinwyr y pleidiau yng Nghymru yn trafod ymddygiad rhywiol amhriodol ddydd Mawrth.

Mae Ms Owens yn dweud bod arweinwyr pleidiau wedi cael gwybod am ymddygiad amhriodol ond nad oes dim wedi cael ei wneud am hynny.

'Defnyddio eu grym'

Dywedodd bod "cynrychiolydd etholiadol" wedi ceisio mynd i'r ystafell ble roedd hi'n aros ar un achlysur yn "yn gynnar iawn yn fy ngyrfa".

Fe ddywedodd iddi "ddweud wrtho nad oedd dim yn mynd i ddigwydd" ond ei bod yn "cofio fe'n dod mewn i fy 'stafell wely a cheisio dod i'r gwely ata' i."

Ychwanegodd: "Mewn achos arall fe geisiodd rhywun ddod i mewn i'r tacsi oedd yn mynd 芒 fi adre."

Mae Ms Owens yn dweud bod yn rhaid gweithredu i daclo'r aflonyddu rhywiol mae merched o fewn gwleidyddiaeth Cymru'n ei brofi.

"Nid achosion o fflyrtio yw'r rhain," dywedodd.

"Diolch byth ry'n ni'n s么n am nifer fechan o ddynion sy'n defnyddio eu grym - maen nhw wedi manteisio ar eu safle gan wybod y bydd eu pleidiau'n eu hamddiffyn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd arweinwyr pleidiau'r Cynulliad yn cwrdd 芒'r Llywydd i drafod ymddygiad rhywiol amhriodol

Daw sylwadau Ms Owens wedi i rai cyn ACau ddweud bod aflonyddu rhywiol ar ferched o fewn y Cynulliad yn digwydd "drwy'r amser".

Yn siarad yn ddienw ar raglen Sunday Politics Wales y 大象传媒 dywedodd cyn-wleidyddion eu bod yn pryderu am y "diffyg trefniadau" ar gyfer digwyddiadau o'r fath.

Fe wnaethon nhw hefyd s么n eu bod yn bryderus fod cydweithwyr "yn troi llygad ddall at ymddygiad gwarthus".

Bydd arweinwyr pleidiau'r Cynulliad yn trafod y mater ddydd Mawrth, a hynny yn sgil honiadau sydd wedi ysgwyd seiliau gwleidyddiaeth San Steffan yr wythnos diwethaf.

Does yna ddim cyhuddiad ffurfiol o aflonyddu rhywiol wedi ei wneud yn erbyn unrhyw Aelod Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Dywedodd un AC, oedd yn dymuno aros yn ddienw, fod angen i'r pleidiau wneud mwy er mwyn sicrhau fod yna ganllawiau clir ar gael.

"Rwy'n credu fod angen i'r pleidiau ei gwneud yn haws i bobl leisio pryderon. Mae'n rhaid bod 'na d卯m o bobl ar gael i roi cymorth i unrhyw un sy'n gwneud cwyn.

"Dwi ddim o'r farn fod y rhan fwyaf o'r pleidiau gyda phroses gref o gynnig cymorth a chefnogaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae nifer o gyhuddiadau wedi eu gwneud am wleidyddion yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf

"Beth sydd 'na yw rhywun yn ganolog sy'n ceisio cael gwared 芒'r mater.

"Os ydyn ni am annog pobl i gymryd mwy o ran mewn democratiaeth, ddylwn ni ddim fod mewn sefyllfa lle mae rhai pobl mewn gwleidyddiaeth yn gallu gweithredu mewn modd sy'n effeithio ar eraill mewn ffordd negyddol."

Dywedodd un cyn-AC wrth y rhaglen fod y ffaith fod y Cynulliad yn sefydliad bach yn ei gwneud hi'n fwy anodd adrodd am ymddygiad amhriodol.

"Pan 'dych chi'n clywed am rywun yn ymddwyn yn amhriodol, 'dych chi'n debygol o adnabod y person hwnnw. Rydyn ni wedi dioddef pethau na ddylwn ni wedi... ond doedd 'na ddim proses glir o ddelio gyda phroblemau."

Mesurau priodol

Dywedodd cyn-AC arall am hanes ymchwilydd oedd wedi deffro i ddarganfod cyn-AC yn ei dadwisgo.

Roedd hefyd, meddai, wedi gorfod ymyrryd ar adeg arall i rwystro AC rhag aflonyddu ar ymchwilydd benywaidd.

Dywedodd y blaid Lafur wrth y 大象传媒 eu bod wedi ysgrifennu at "ysgrifenyddion yr etholaethau a swyddogion menywod gyda chanllawiau penodol am gofnodi cwynion am aflonyddu rhywiol".

Ychwanegodd Plaid Cymru eu bod wedi mabwysiadu fframwaith newydd yn ddiweddar er mwyn delio gyda chwynion yn gynt: "Rydym hefyd yn adolygu ein protocol mewnol ac yn ystyried sut i'w gryfhau."

Dywedodd y Ceidwadwyr eu bod "yn gweithio ar draws y blaid i sicrhau fod mesurau diogelwch priodol mewn grym i amddiffyn staff rhag pob math o aflonyddu".

Yn 么l y Democratiaid Rhyddfrydol mae ganddynt "ganllawiau clir yngl欧n 芒 sut i wneud cwyn, ac mewn achosion lle nad yw'r achwynydd am ddatgelu ei henw yna mae swyddog penodol yn gallu cyflwyno'r gwyn".

Mae UKIP wedi dweud y byddan nhw hefyd yn "adolygu eu gweithdrefnau diogelwch o fewn y blaid er mwyn sicrhau eu bod yn amddiffyn pawb sy'n gweithio iddyn nhw".