Nifer o gamer芒u cyflymder ddim yn cael eu defnyddio
- Cyhoeddwyd
Mae data newydd yn dangos nad yw hanner camer芒u cyflymder Prydain yn weithredol - yn eu plith camer芒u yn ardaloedd Heddlu Gwent a Heddlu'r De.
Mae'r data wedi cael ei ddarparu gan PA (Press Association) wedi iddyn nhw wneud cais drwy ryddid gwybodaeth i 45 o heddluoedd ar draws y DU.
Yn 么l llefarydd ar ran Cyngor Arolygwyr yr Heddlu "mater gweithredol yw camer芒u cyflymder" a heddluoedd pob rhanbarth sy'n gyfrifol am y camer芒u.
Mae gan Gwent 17 camera cyflymder sefydlog ond dim ond 8 sy'n weithredol.
Yn Ne Cymru mae 88 camera sefydlog ac y mae 59% o'r rhai hynny yn weithredol.
Dywedodd Edmund King ar ran yr AA: "Cwtogiadau mewn grantiau diogelwch ffyrdd sy'n gyfrifol am focsys gwag melyn ac mae camer芒u digidol, er yn effeithiol, yn ddrud iawn."
Ychwanegodd: "Ers tro mae camer芒u wedi bod yn cael eu symud rhwng safleoedd - hynny yn ddibynnol ar y galw.
"Ond mae'n bwysig bod gyrwyr yn cofio bod nifer o gamer芒u cudd mewn grym. Y cyngor gorau yw glynu at y cyfyngiadau cyflymder."
Yn 么l llefarydd ar ran Safe Speed, sy'n ymgyrchu i gael mwy o blismyn dyw camer芒u cyflymder sefydlog ddim byd "i wneud 芒 diogelwch ffordd" ac y mae cael plismyn yn llawer iawn yn fwy effeithiol.
Ond yn 么l Neil Greig, cyfarwyddwr polisi IAM Road Smart: "Mae camer芒u yn cael eu gosod am resymau diogelwch. Mae gan bob un lleoliad ryw fath o broblem sydd wedi arwain yn y gorffennol at ddamwain ffordd ac mae camer芒u diogelwch yn cael eu gosod er mwyn amddiffyn y bobl sy'n byw gerllaw."