大象传媒

Bodlondeb: Gorymdaith cyn y penderfyniad

  • Cyhoeddwyd
bodlondeb

Roedd 150 o bobl yn gorymdeithio yn Aberystwyth ddydd Sadwrn i ddangos eu hanfodlonrwydd i'r cynlluniau i gau cartref gofal Bodlondeb ar gyrion y dre.

Mae disgwyl i Gyngor Ceredigion benderfynu ddydd Mawrth a fyddant yn cau y cartref ym Mhenparcau gan golli 33 o swyddi.

Mae'r cyngor wedi bod yn ceisio gwerthu'r cartref ers dwy flynedd ond wedi methu 芒 sicrhau cynnig sy'n cwrdd 芒'r gofynion.

Mae chwe chant o bobl wedi arwyddo deiseb i gadw'r cartref ar agor.

Roedd yna orymdaith debyg ym mis Medi ar strydoedd Aberystwyth. Mae Undeb y GMB wedi gwrthwynebu'r bwriad i gau gan ddweud y bydd yn creu "gwagle mawr" yn y gofal sy'n cael ei gynnig yn y canolbarth.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cartref Bodlondeb wedi bod yn gwneud colled o oddeutu 拢400,000 y flwyddyn

Petai'r cartref yn cau mi fyddai'n rhaid i'r 13 sy'n cael gofal yno symud i gartref arall.

Nododd adroddiad, a gafodd ei ystyried gan Gyngor Ceredigion yn gynharach eleni bod y cartref wedi bod yn gwneud colledion o hyd at 拢400,000 y flwyddyn - mwy na 拢7,600 yr wythnos.

Mae'r Cyngor yn dweud y byddai'n rhaid gwario'n sylweddol arno petai yn aros ar agor.