'Strictly Cwm Dancing'
- Cyhoeddwyd
Mae Russell Grant yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ers degawdau, yn darllen y s锚r, yn actio a, dros y blynyddoedd diweddar, dawnsio.
Ond ar nos Wener 10 Tachwedd bydd Russell yn ymweld 芒 Chwmderi, mewn rhifyn arbennig o Pobol y Cwm.
Siaradodd Russell gyda Cymru Fyw am ei brofiadau yng Nghwmderi, a'i fywyd yma yng Nghymru.
Sut wnes di gael y r么l yn Pobol y Cwm?
Ges i alwad ff么n gan y cynhyrchydd, Ll欧r, yn dweud eu bod nhw am wneud rhifyn arbennig o'r rhaglen yn ymwneud 芒 dawnsio - 'Strictly Cwm Dancing' - sydd dal yn fy ngwneud i chwerthin.
Pan ges i'r cynnig i ymddangos fe ddwedais "wrth gwrs!" achos o'n i'n arfer gwylio Pobol y Cwm pan symudais i Eryri gyntaf, er fy mod wedi byw yng Nghymru ers 1969. Hefyd, 'nes i weithio gyda Sue Roderick yn y gorffennol felly roedd yna gysylltiad yna.
O'n i'n gweithio yn Llandaf am flynyddoedd lawer gyda Teleri Bevan, felly dwi 'di deall ers blynyddoedd bod Pobol y Cwm yn hynod boblogaidd. Pan dwi'n cael cyfle dwi'n edrych ar Pobol y Cwm gyda'r isdeitlau 'mlaen.
Sut aeth y diwrnod o ffilmio yng Nghwmderi?
Ges i ddiwrnod gwych gan weithio'n agos gyda'r hyfryd Sera (Sera Cracroft sy'n chwarae rhan Eileen), ac Alun ap Brinley (Jim).
Nes i dair neu bedair golygfa a mi ges i amser braf - roedd hi'n neis hefyd gweld y stiwdios newydd ym Mhorth y Rhath. Roedd hi'n braf cael cyfle i actio hefyd, lle dechreuodd y cyfan i mi.
Sut mae dy Cymraeg di erbyn hyn?
Dydy fy Nghymraeg ddim yn wych dyddiau yma. Dim ond pan fydda i adref yng Nghymru dwi'n cael y cyfle i siarad Cymraeg gyda ffrindiau.
Doedd dim cymaint o Gymraeg i'w glywed yn y Fenni, Y Barri a Chaerdydd lle ro'n i'n byw am gyfnodau. Ond dwi'n ffeindio mod i'n cael mwy o gyfle i ymarfer yn Eryri, a dwi'n caru'r ffaith yna.
'Nes i gwrs yn Gellilydan n么l yn 2001, ac o'n i'n siarad lot o Gymraeg ar y pryd. Ond gan mod i wedi bod yn Llundain am gyfnodau hir dros y blynyddoedd diwethaf dwi ddim yn cael gymaint o gyfleoedd i ymarfer. Dwi'n cofio un tro pan wnes i siarad Cymraeg yn ddiweddar roedd bobl yn meddwl mai Almaenwr o'n i.
Dwi'n byw yn y gogledd ers 1999, ac mae fy nheulu ar ochr fy mam yn Gymry. Enw fy nain oedd Alice a fy nain oedd Caroline Anne Griffiths, ond daw ei mam hi (fy hen hen Nain) o'r Parc ger Y Bala.
Symudodd fy nheulu o'r Bala lawr i'r Rhath yng Nghaerdydd ac fe dyfodd y teulu yno - mae fy ewythr, Harry, wedi'i gladdu yn Nghwm Twrch Uchaf.
Ro'n i'n gweithio mewn pantomeim yn y Theatr Newydd yn Nghaerdydd yn 1969 gyda Ivor Emmanuel, ac dwi wedi bod yn ymwybodol o fy niwylliant Cymreig dros y blynyddoedd.
Rwy'n 67 ym mis Chwefror, ac mae fy niwylliant a fy nghefndir wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd.
Cafodd fy horoscope gyntaf ei chyhoeddi yn y Western Mail, ac ar Radio Wales y gwnes i ddarlledu am y tro cyntaf. Pan oeddwn ar y teledu gyntaf roeddwn ar HTV Cymru. Ro'n i hyd yn oed mewn pantomeim am y tro cyntaf yng Nghymru! Felly mae Cymru wedi bod mor bwysig i mi yn bersonol erioed.
Ble yw dy hoff le yng Nghymru?
Rwy'n caru lle dwi'n byw yn ardal Maentwrog ar hyn o bryd. Mae yna gymuned wych ac mae gen i lot o ffrindiau agos dwi'n gweithio efo ar fy ngwaith gyda elusen dementia.
Dwi'n gweithio ym Mhorthmadog ac yn gwneud llawer efo Canolfan Hamdden Glaslyn a digwyddiadau ym Mhortmeirion.
Rwy'n hapus iawn i fod yn ran o'r gymuned lle dwi'n byw. Ond gan fod fy rhieni yn 90 oed bellach, dwi lawr yn Middlesex yn ymweld 芒 nhw yn aml ac felly dydw i ddim yn cael y cyfle i fod adre' gymaint 芒 hynny.
Celebrity Masterchef neu Strictly, pa un wnest ti fwynhau fwyaf?
Does dim cymhariaeth, y dawnsio. Ges i gymaint o hwyl ac aethon ni gymaint pellach na'r disgwyl gan gyrraedd wythnos 8. Ro'n i ar y sioe yr un flwyddyn ag Alex Jones a Robbie Savage - y 'Taffia' fel oedden ni'n cael ein galw.
Collodd Robbie Savage ei dad yn ystod y ffilmio ac fe ofynnodd ei fam i mi: "Mae Robbie yn caru chdi, alli di fod yn dad bedydd iddo?" Ac mi rydw i - 'da ni'n siarad ar y ff么n o leiaf unwaith yr wythnos.
Dwi dal yn g'neud llawer efo Strictly gan gynnwys cyfrannu i raglen It Takes Two efo Zoe Ball.
Gafon ni ein henwebu am Bafta a daethon ni'n ail yn uchafbwyntiau teledu'r flwyddyn - dim ond priodas William a Kate wnaeth ein curo ni!