大象传媒

Ailagor Tafarn Sinc wedi ymgyrch gymunedol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tafarn Sinc yn ailagor yn swyddogol

Mae trigolion ardal Maenclochog a Rhosybwlch yng ngogledd Sir Benfro wedi bod yn dathlu ddydd Mawrth wrth i'r dafarn leol ailagor.

Ar 么l codi dros 拢325,000, y gymuned leol yw perchnogion newydd Tafarn Sinc.

Roedd pryder y byddai'r tafarn yn cau am byth ar 么l i'r cyn berchnogion fethu 芒 dod o hyd i brynwr.

Yn wreiddiol cafodd y dafarn a bwyty ei rhoi ar y farchnad am 拢295,000.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Grwp cymunedol sydd nawr yn berchen ar Tafarn Sinc

Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans.

Yn 么l cydlynydd y prosiect, y cynghorydd Cris Tomos, fe lwyddodd y fenter i godi 拢220,000 drwy werthu cyfranddaliadau.

"Y nod yw codi cronfa'r cyfranddaliadau i 拢375,200, a bydd modd prynu cyfranddaliadau tan o leiaf Mawrth 2018."

I ddathlu'r achlysur, Hefin Wyn, un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Tafarn Sinc, wnaeth gyflwyno'r peint cyntaf i Ryan John, un o selogion y dafarn.