Tata am fuddsoddi 拢30m yn ei ffatri ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae Tata wedi cyhoeddi y bydd y cwmni'n buddsoddi 拢30m yn ei ffatri ym Mhort Talbot.
Dywedodd y cwmni y bydd peiriant creu dur 500 tunnell yn cael ei osod ar y safle, ac fe fydd offer arall yn cael ei ddiweddaru.
Unwaith bydd y peiriant yn ei le bydd modd newid 330 tunnell o haearn mewn i ddur ar y tro.
Yn 么l Tata bydd yr offer newydd yn ei helpu i gynhyrchu math mwy datblygedig o ddur sy'n cael ei ddefnyddio mewn ceir trydan a cheir hybrid.
Bydd y dur hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio yn diwydiant adeiladu.
Ymrwymiad hir dymor
Yn 么l Dave Murray, rheolwr prosiect gyda Tata, y bydd y peiriant newydd yn golygu y bydd modd sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu dur yn ddibynadwy i'r dyfodol.
Dywedodd Bimlendra Jha, Prif Weithredwr Tata ym Mhrydain, bod y buddsoddiad yn dangos "ymrwymiad yn yr hir dymor i gynhyrchu dur ym Mhrydain".
Yn y gorffennol mae pryderon wedi bod am y ffatri ym Mhort Talbot, wrth i'r cwmni o India ddweud ar un cyfnod eu bod eisiau gwerthu rhai safleoedd yn y DU.
Ond ym mis Medi fe ddywedodd cwmni Almaenig Thyssenkrupp y bydden nhw'n uno gyda Tata.
Roedd hynny medden nhw yn gam i "adeiladu dyfodol" Tata yn Ewrop.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017