大象传媒

Ehangu cynllun i atal trais yn erbyn staff iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
Staff
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae staff yn cael hyfforddiant ar sut i ymdopi mewn sefyllfaoedd pan mae claf yn ymosod arnyn nhw

Mae t卯m o nyrsys arbenigol wedi llwyddo i weld gostyngiad yn nifer yr achosion o drais yn erbyn staff iechyd meddwl yn ysbytai'r gogledd.

Gwelodd ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr leihad o 12% yn nifer y staff sydd wedi wynebu trais yn y gweithle dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae hynny'n cymharu 芒 ffigyrau cwbl wahanol yn Lloegr, lle mae nifer yr achosion o drais wedi codi 25% dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Daw'r lleihad yn y gogledd yn sgil gwaith t卯m o Nyrsys Arbenigol Trais ac Ymosodedd, sydd bellach yn arwain gwaith cenedlaethol i fynd i'r afael 芒'r broblem gyda byrddau iechyd ar draws y wlad.

Rhwystro trais

Mae'r t卯m o bedwar yn arwain gwaith rhwystrol, sy'n cynnwys sefydlu cynlluniau cefnogi ymddygiad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cleifion mewn perygl, a hyfforddiant trais ac ymosodedd i staff iechyd meddwl rheng flaen.

Mae Llinos Prydderch yn rheoli un o wardiau Uned Heddfan yn Ysbyty Maelor, Wrecsam a dywedodd fod pobl sy'n dioddef o salwch afiechyd meddwl yn gallu bod yn ofnus iawn.

"Yn aml pan ma rhywun yn sal efo afiechyd meddwl, maen nhw'n gallu bod yn ofnus ofnadwy.

"Maen nhw'n paranoid, a wedyn o achos hynny maen nhw'n gallu cymryd hynny allan arnyn nhw'u hunain neu ar bobol yn y gymuned, ac hefyd ar staff yn yr ysbyty," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llinos Prydderch yn rheoli un o wardiau'r Uned Heddfan yn Ysbyty Maelor, Wrecsam

Bydd y t卯m hefyd yn gweithio gyda chleifion a'u teuluoedd ar 么l digwyddiadau a helpu i gydlynu ystod o gefnogaeth barhaus sydd ar gael i staff sydd wedi diodde' ymosodiadau.

Dywedodd Gareth Owen, Nyrs Glinigol Arbenigol ar gyfer Trais ac Ymosodedd: "Wrth i'n t卯m ehangu dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gallu gweithio'n llawer iawn mwy rhagweithiol i rwystro digwyddiadau o drais ac ymosodedd rhag digwydd yn y lle cyntaf.

"Mae rhan o'n ymagwedd yn dibynnu ar ragdybiaeth bod gan y cleifion botensial i ddatblygu a gwella eu hymddygiad. Rydym yn helpu i feithrin y potensial hwn gyda'r gefnogaeth gywir.

"Rydym ar hyn o bryd yn arwain gr诺p o glinigwyr i sefydlu canllawiau cenedlaethol ar reoli trais ac ymosodedd tuag at staff iechyd meddwl yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn bod BIPBC yn cael ei gyfrif fel esiampl o arfer da."

'Cysylltiedig 芒 chyflwr clinigol'

O'r holl ymosodiadau treisgar ar staff Betsi Cadwaladr dros y tair blynedd diwethaf, roedd mwy na 60% yn erbyn staff mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Er y 12% o leihad, dywedodd Gareth fod y t卯m yn benderfynol o barhau i ddatblygu'r gefnogaeth sydd ar gael i gleifion a staff.

Ffynhonnell y llun, GIG Cymru

"Yn anffodus, mae pobl sy'n goddef gyda phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o gael profiadau a all gyfrannu tuag at ymddygiad a ystyrir yn annerbyniol," meddai.

"Yn aml iawn, gall digwyddiadau treisgar neu ymosodol fod yn uniongyrchol gysylltiedig 芒 chyflwr clinigol neu aflonyddwch llym cyflwr meddygol, ac weithiau nid hyn yw'r achos.

"Er bod ymosodiadau difrifol yn brin, mae'r rhan fwyaf o staff wedi bod yn dyst i ryw fath o drais ac ymosodedd, a'r rhan amlaf ar ffurf ymddygiad bygythiol neu ddinistriol - mae mabwysiadu ymagwedd ragweithiol sy'n cefnogi ein cleifion ar adegau o argyfwng o fudd i bawb drwy leihau trais mewn lleoliadau gofal iechyd."