Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfarfod i gofio Carl Sargeant a'r 'digwyddiadau trasig'
Bydd ACau Llafur yn cyfarfod i "drafod y digwyddiadau trasig" yr wythnos yn ddiweddarach, wedi marwolaeth Carl Sargeant fore Mawrth.
Daeth cadarnhad gan y Blaid Lafur y byddai'r Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn gwneud "datganiad pellach yn dilyn y cyfarfod", pan fydd aelodau yn rhoi eu teyrngedau.
Mae Carwyn Jones wedi dod dan bwysau am y ffordd y cafodd Mr Sargeant ei drin yn dilyn cyhuddiadau o gamymddwyn yn ei erbyn.
Ddydd Mercher, fe gyhoeddodd cyfreithwyr ar ran teulu Mr Sargeant ddatganiad yn galw am ymchwiliad llawn i'r amgylchiadau.
Dywed y datganiad: "Mae 'na awgrym fod cefnogaeth wedi ei chynnig i Mr Sargeant. Dyw hi ddim yn glir ar ba ffurf oedd y gefnogaeth a gynigiwyd, ond nid yw hynny'n gywir.
"Mae'r teulu yn gobeithio, wrth fynd ymlaen, y bydd ymchwiliad llawn a chraffu ar y modd y gwnaeth y gwahanol bartïon ddelio gyda'r honiadau, Mr Sargeant yn bersonol a'r datganiadau sydd wedi eu gwneud yn y wasg a'r cyfryngau."
Dywedodd y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews fod "tanseilio personol a bwriadol wedi bod o Carl Sargeant o fewn y Llywodraeth Lafur yng Nghymru ers sawl blwyddyn".
Dywedodd Mr Andrews fod diwylliant o fwlio yn bodoli yn ystod ei gyfnod yn y cabinet. Dywedodd bod Carwyn Jones yn ymwybodol ond ni chafodd y mater ei daclo.
Ychwanegodd Cyn-brif Weinidog Cymru, Alun Michael: "Rwy'n gobeithio y bydd y teulu yn cael yr atebion i'r cwestiynau maen nhw'n eu holi.
"Beth oedd yr honiadau, a pham na chafodd y rhain eu rhannu gyda Carl, sef y person oedd yn rhan o'r ymchwiliad.
"A hefyd pam na chafodd cefnogaeth ei roi, a pwy ddylai wedi bod yn gyfrifol am roi'r gefnogaeth yno iddo."
Galwadau i ymddiswyddo
Fe wnaeth diprwy arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Bernie Attridge - oedd yn ffrind personol i Carl Sargeant - drydar ei farn yn glir nos Fercher.
Mewn dau drydar, dywedodd: "Mae fy ngalar yn troi'n ddicter am y modd y cafodd fy nghyfaill ei drin gan bobl oedd yn honni bod yn gyfeillion iddo. Amser i fynd Brif Weinidog.
"Rwy'n galw arnoch i wneud y peth iawn ac ymddiswyddo. Mae'r modd y gwnaethoch chi drin Carl yn anfaddeuol, ac ry'ch chi'n fy ngwneud i'n sal."
Ar raglen y Post Cyntaf ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru fore dydd Iau, dywedodd y Cynghorydd Llafur, Sion Jones bod yna "gonsensws eitha' mawr wedi bod rwan yng Nghymru yn galw ar y Prif Weinidog i sefyll i lawr".
"Mae o mewn sefyllfa mor anffodus, mor anffodus, ond yn anffodus iawn, dyma ydy'r ffeithiau, ac mae'r mater wedi cael ei ddelio efo fo mewn ffordd reit wael."
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Diwedd neges Twitter
Fe wnaeth teulu Mr Sargeant ryddhau gohebiaeth yn gynharach ddydd Mercher yn dweud fod "y poen meddwl o fethu ag amddiffyn ei hun yn iawn yn erbyn honiadau amhenodol yn golygu na chafodd y cwrteisi, gweddustra na chyfiawnder naturiol".
Mae llefarydd ar ran Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn "teimlo ergyd drom o golli ffrind".
Mae sawl aelod o'r gwrthbleidiau yn y Cynulliad wedi galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.
Dywedodd arweinydd UKIP Cymru, Neil Hamilton fod Carwyn Jones "wedi methu yn ei ddyletswydd i ofalu" am Mr Sargeant.
Brynhawn Iau dywedodd llefarydd UKIP y byddai'r blaid yn y Cynulliad yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn Mr Jones os nad yw'n ymddiswyddo.
"Does ganddo ddim awdurdod moesol" meddai'r llefarydd.
Dywedodd un AC Llafur bod "cwestiynau am y broses gafodd ei ddilyn", a'i bod yn "anodd deall pam y cafodd Carl ei daflu i ffau'r llewod" gan ddweud bod Mr Sargeant wedi cael ei "ynysu heb i unrhyw benderfyniad gael ei wneud am ei euogrwydd".
"Mae pryder mawr yn y grŵp am y ffordd y mae hyn wedi cael ei drin."