大象传媒

Datganiad Carwyn Jones 'ddim yn ddigon' medd cyn weinidog

  • Cyhoeddwyd
Leighton Andrews
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Leighton Andrews yn AC dros y Rhondda rhwng 2003- 2016

Doedd datganiad y Prif Weinidog, Carwyn Jones yngl欧n 芒 marwolaeth Carl Sargeant "ddim yn ddigon" yn 么l cyn weinidog yn Llywodraeth Cymru.

Ac mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Mr Jones i gynnal ymchwiliad annibynnol i'r digwyddiadau a hynny ar unwaith.

Dywedodd Carwyn Jones ddydd Iau nad oedd ganddo ddewis ond diswyddo Mr Sargeant wedi i honiadau gael ei wneud yngl欧n 芒'i ymddygiad.

Yn 么l cyn weinidog yng nghabinet Carwyn Jones, Leighton Andrews, byddai Mr Sargeant wedi wynebu "misoedd hunllefus" wrth i'r ymchwiliad ddigwydd i'r honiadau.

"Byddai ymchwiliad wedi parhau hyd fis Ionawr a fyddai yna ddim diweddglo sydyn i rywbeth fel hyn.

"Mi fase wedi bod yn hunllef iddo ef (Mr Sargeant) a'i deulu am beth amser," meddai.

'Gofidio am y broses'

Mae Mr Andrews hefyd wedi beirniadu penderfyniad y Prif Weinidog i gynnal cyfweliadau gyda'r wasg ddydd Llun yngl欧n 芒'i benderfyniad i ddiswyddo Mr Sargeant, wedi i'r blaid Lafur lansio ymchwiliad mewnol.

"Roeddwn dan yr argraff, unwaith bod y mater wedi'i drosglwyddo i'r blaid Lafur ddydd Gwener, dylai neb fod wedi gwneud unrhyw sylw pellach," meddai Mr Andrews.

Ddydd Gwener cyhoeddodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies ei fod wedi ysgrifennu at Mr Jones a Phrif Ysgrifennydd Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, yn galw am ymchwiliad annibynnol i faterion sy'n codi o farwolaeth Mr Sargeant.

Mae'r llythyrau yn dweud y dylai Mr Jones fynd gam ymhellach na'i ddatganid gan alw arno i gadarnhau ymchwiliad i'r modd y cafodd Mr Sargeant ei ddiswyddo,

Mae Mr Davies hefyd yn gofyn am ymchwiliad i honiadau Leighton Andrews yngl欧n 芒 bwlio.

Yn ei lythyr at Shan Morgan mae'n galw am ymchwiliad i'r honiadau i ddigwydd "ar unwaith".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Carwyn Jones annerch y wasg ddydd Iau gyda datganiad yn ymateb i farwolaeth Carl Sargeant

Yn ei ddatganiad ddydd Iau, dywedodd Mr Jones bod y "rhain yn ddyddiau tywyll iawn i'r Cynulliad ac yn bennaf i deulu Mr Sargeant."

Ychwanegodd fod llawer o gwestiynau yn parhau a bod "teulu Mr Sargeant yn haeddu atebion."

Fe roddodd deyrnged hefyd i'w "gyfaill".

"Mae Cymru wedi colli person cynnes, yn llawn gallu a charisma... Roedd Carl yn rym o natur," meddai.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth Ian Lucas drydar ei lythyr yn galw am ymchwiliad

Yn y cyfamser mae AS Alun a Glannau Dyfrdwy, Mark Tami a oedd yn rhannu'r un etholaeth 芒 Carl Sargeant wedi dweud nad oedd y "canllawiau yn ddigon da" ac mae'n galw am ymchwiliad llawn.

Ac mae AS Llafur etholaeth gyfagos Wrecsam - Ian Lucas - wedi cefnogi galwad Mr Tami, ac wedi ysgrifennu at Mr Jones yn galw am ymchwiliad annibynnol.

Dywedodd Mr Tami fod "angen edrych ar y canllawiau oherwydd dydyn nhw ddim yn gwarchod neb. Mae'n rhaid edrych i warchod pobl sy'n ddioddefwyr neu sy'n gwneud yr honiadau".

"Ar y llaw arall mae dyletswydd hefyd tuag at les y sawl mae'r honiadau yn cael ei gwneud yn eu herbyn," meddai.

Dywedodd Mr Tami nad oedd sylwadau Carwyn Jones am Carl Sargeant yn ddigon i fodloni pobl sy'n flin am y ffordd y cafodd honiadau yn ei erbyn eu trin.

Bydd cwest i farwoaleth Mr Sargeant yn cael ei agor ddydd Llun, 13 Tachwedd.