大象传媒

Cynghorwyr Conwy yn penderfynu dymchwel pier Bae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Pier

Mae cynghorwyr Conwy wedi pleidleisio o blaid cynllun i ddymchwel pier hanesyddol Bae Colwyn.

Fe wnaeth rhan o'r pier presennol gwympo i'r m么r yn dilyn tywydd garw ym mis Chwefror 2017.

Bwriad y cyngor yw dymchwel yr adeilad presennol a chodi pier llai yn ei le.

Fe fydd rhai o atyniadau hanesyddol y pier yn cael eu gwarchod a'u gosod fel rhan o'r strwythur newydd.

Mae'r awdurdod lleol yn dweud fod y cynlluniau hefyd yn cynnwys cymal sy'n caniat谩u iddyn nhw ail-adeiladu'r pier i'w maint gwreiddiol pe bai Ymddiriedolaeth Pier Fictoria Colwyn yn gallu dod o hyd i'r arian.

Cafodd Pier Fictoria ei adeiladu yn 1900 ond mae wedi bod ar gau ers 2008.

Fe wnaeth y cyngor sir sicrhau perchnogaeth o'r safle ar 么l achos cyfreithiol hir yn erbyn y cyn berchennog, dyn busnes lleol.

Mae'r adeilad yn un rhestredig II, ac ar ei anterth mae wedi croesawu artistiaid fel Morecambe a Wise, Harry Secombe ac Elvis Costello.

Ffynhonnell y llun, Steven Thomas/Roby Aerial Work
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth rhan o'r pier syrthio i'r m么r ym mis Chwefror 2017

Dywedodd y cynghorydd Gareth Jones, arweinydd Cyngor Conwy:"Fe wnaeth stormydd mis Chwefror achosi difrod i'r pier a hefyd dangos yn union pa mor fregus oedd yr holl adeilad.

"Rydym nawr wedi sicrhau caniat芒d i ddymchwel adeilad peryglus, a diogelu elfennau treftadaeth.

"Dyw'r adeilad newydd ddim yr un fath, ond fe fydd yn ased o ran twristiaid.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn bwrw ymlaen mor fuan 芒 phosib."