大象传媒

Cyllid cyrff celfyddydau i aros yr un fath tan 2020

  • Cyhoeddwyd
Castell Caerdydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r corff sy'n rheoli cestyll ymhlith y rhai fydd yn cael eu heffeithio gan y setliad cyllidebol

Bydd cyllid blynyddol y cyrff sy'n cefnogi amgueddfeydd, cestyll a'r celfyddydau yng Nghymru yn aros yr un fath tan 2020.

Mae'r penderfyniad yn effeithio ar sefydliadau fel Cadw, Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bydd y lefelau gwariant presennol yn parhau fel y maen nhw fel rhan o'u cynlluniau cyllidebol.

Roedd hyn yn un o'r amodau roddodd Plaid Cymru am eu cefnogaeth i gyllideb ddrafft y llywodraeth ar gyfer 2018-19.

Cyllid diwylliant 2018-19 a 2019-20

Cyllideb fesul blwyddyn ariannol, ar yr amod bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chymeradwyo:

  • Cyngor Celfyddydau Cymru: 拢31,227,000

  • Amgueddfa Cymru: 拢21,840,000

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 拢9,585,000

  • Cadw: 拢7,608,000

  • Cyngor Llyfrau Cymru: 拢3,649,000

Er bod lefelau cyllid y cyrff yn aros yn eu hunfan, mae'r sefydliadau'n cael anogaeth i ddod o hyd i fwy o arian o ffynonellau eraill.

cyn cyfarfod o bwyllgor diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu'r Cynulliad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gofyn i'r Cyngor Celfyddydau i "gyflymu ei waith" o helpu'r sefydliadau sy'n cael eu cefnogaeth "i gynyddu'r incwm maent yn ei gynhyrchu eu hunain".

Nododd hefyd y bydd Cadw, y corff sy'n gofalu am gestyll a henebion, yn codi prisiau "yn gymedrol" y flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Celfyddydau: "Mae cynigion cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 a 2019-20 yn cadw'r lefel o gyllid gafodd ei gytuno arno ar gyfer y flwyddyn bresennol.

"Yn y cyfnod economaidd heriol hwn mae hyn yn arwydd pwysig o gefnogaeth i'r celfyddydau yng Nghymru."