大象传媒

Llety Arall Caernarfon: Angen 拢40,000 mewn mis

  • Cyhoeddwyd
llety arall - safle posib.
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r adeilad ar Stryd y Plas wedi bod yn wag ers tro

Mae menter gymunedol yng Nghaernarfon yn dweud bod angen codi 拢40,000 mewn pedair wythnos er mwyn parhau 芒'u cynllun i agor gwesty yn y dref.

Er bod digon o arian i brynu hen adeilad yn y dref, mae Llety Arall Cyf yn rhybuddio bod angen mwy o arian a bod y "cloc yn tician".

Gobaith y fenter gymunedol ydy prynu adeilad gwag ar Stryd y Plas - un o strydoedd siopa mwyaf poblogaidd Caernarfon.

Eu bwriad ydy troi'r adeilad yn llety i bobl sydd am brofi'r Gymraeg yn y dref, a bydd cyfle hefyd i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth y dref a'r ardal.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Stryd y Plas yn un o strydoedd siopa mwyaf poblogaidd Caernarfon

Ond mae angen codi 拢40,000 mewn mis er mwyn parhau 芒'r cynllun.

Mae'r fenter wedi casglu 拢75,000 hyd yn hyn, ac wedi cael grant o 拢128,000 gan Lywodraeth Cymru.

'Dyfodol Cymraeg Caernarfon'

Dywedodd Menna Machreth, o Llety Arall Cyf ei fod yn "gyfle i bobl fuddsoddi yn nyfodol y dref arbennig yma鈥 dref mwyaf Cymraeg ei hiaith yn y byd".

Ychwanegodd bod y "cloc yn tician" er bod digon o arian i brynu'r adeilad a chychwyn ar y gwaith.

Dywedodd hefyd: "Ein neges felly yw buddsoddwch yn nyfodol Cymraeg Caernarfon.

"Rydym yn bwriadu cynnig llety i bobl sydd am ymweld 芒 Chaernarfon i gael profiad o'r Gymraeg fel iaith fyw, boed yn ddysgwyr, teuluoedd, ysgolion neu dwristiaid diwylliannol.

"Rydym am i bobl weld y Caernarfon go iawn, nid aros mewn gwesty cadwyn ac ymweld 芒'r castell yn unig!"

Fe fydd cyfle i bobl glywed mwy am gynllun Llety Arall yn eu cyfarfod cyffredinol cyntaf nos Iau.

Fe fydd 'na gyfarfod cyhoeddus hefyd, er mwyn i bobl glywed mwy am y cynllun ac i holi cwestiynau.