Beirniadu taliad 'anhygoel' o 拢10,000 i Clive Woodward
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi dod i'r amlwg bod y cyn-hyfforddwr rygbi, Syr Clive Woodward, wedi ei dalu dros 拢10,000 am awr o waith gan un o brif gyrff addysg Cymru.
Fis Gorffennaf roedd Syr Clive yn siaradwr gwadd mewn cynhadledd i brifathrawon uwchradd y gogledd gafodd ei threfnu gan y corff addysg, GWE.
Fe siaradodd yn y gynhadledd am awr, ac mae Newyddion9 yn deall ei fod wedi cael o leiaf 拢10,000 o arian y trethdalwyr am wneud hynny.
Mae ei wasanaeth yn cael ei hysbysebu am rhwng 拢10,000 a 拢25,000, ond mae GWE yn dweud ei fod wedi ei dalu'n nes at waelod hynny.
'Swm anhygoel'
Consortiwm addysg yn y gogledd ydy , sy'n ceisio codi safonau mewn ysgolion.
Roedd 'na wynebau adnabyddus eraill ar lwyfan y gynhadledd gan gynnwys is-reolwr t卯m p锚l-droed Cymru, Osian Roberts, wnaeth siarad yn ei amser personol.
Mae'n ymddangos ei fod yn aros am ei d芒l o 拢500.
Roedd cyfanswm cost y gynhadledd wedi dod i dros 拢20,000.
Yn 么l y Ceidwadwyr mae'r swm gafodd ei dalu i Syr Clive yn "anhygoel", a hynny wrth i ysgolion orfod arbed arian,
"Mae gwario miloedd o bunnau ar siaradwr gwadd adnabyddus wrth i ysgolion orfod torri eu cyllidebau'n sylweddol yn annerbyniol," meddai eu llefarydd ar addysg, Darren Millar.
"Mae angen i'r consortiwm gyfiawnhau'r arian maen nhw'n gwario yn y dyfodol," meddai eu llefarydd ar addysg, Darren Millar.
Un arall sy'n feirniadol ydy Owen Hathway o'r Undeb Addysg Genedlaethol, sy'n gofyn pam fod gymaint o arian wedi cael ei wario yn ystod cyfnod o doriadau mewn ysgolion.
Mae GWE yn dweud nad ydyn nhw'n cyhoeddi manylion am gytundebau masnachol gyda siaradwyr gwadd.
Maen nhw'n eu "dewis yn ofalus" er mwyn i arweinwyr addysg yn y gogledd "ddysgu o'u gallu i ffurfio a chymell timau llwyddiannus".