大象传媒

100 busnes yn annog creu morlyn llanw Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Morlyn AbertaweFfynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l y cyn-weinidog ynni Charles Hendry, byddai'r cynllun morlyn Bae Abertawe yn fforddiadwy.

Mae dros 100 o fusnesau wedi llofnodi llythyr yn galw ar y Prif Weinidog i roi 拢1.3bn i gynllun morlyn llanw Bae Abertawe cyn gynted 芒 phosib.

10 mis yn 么l, fe wnaeth y byddai'r cynllun yn "gyfraniad mawr" i'r diwydiant ynni ym Mhrydain.

Ond mae'n ymddangos bod gan Lywodraeth y DU bryderon ynglyn 芒 maint y cymhorthdal sydd ei angen o'i gymharu 芒 faint o ynni fyddai'n cael ei gynhyrchu.

Bydd y llythyr yn cael ei gyflwyno i swyddfa'r Prif Weinidog ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Tidal Lagoon Power

Ymhlith y cwmn茂au sydd wedi llofnodi'r llythyr mae cwmni dur Tata, wisgi Penderyn, Bwydydd Castell Howell, cwmn茂au adeiladu WRW a Dawnus, Clwb P锚l-Droed Abertawe a chlwb rygbi Y Gweilch.

Mae'r cwmni y tu 么l i'r fenter yn honni y byddai'r cynllun yn darparu digon o drydan i 155,000 o gartrefi dros gyfnod o 120 mlynedd.

Bydd Arweinydd Cyngor Sir a Dinas Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, a chynrychiolwyr o rai o'r cwmniau yn cyflwyno'r llythyr i 10 Downing Street ddydd Llun.

Dywedodd y Cynghorydd Stewart: "Mae 10 mis wedi pasio ers i Charles Hendry, asesydd annibynnol ar ran Llywodraeth y DU, ddod i'r casgliad na fyddai neb yn ei ddifaru."

Cadw hyder buddsoddwyr

Ychwanegodd: "Dyna'i gyd ydyn ni wedi ei glywed ers hynny ydy bod y llywodraeth am wneud penderfyniad yn y dyfodol agos. Ond digon yw digon.

"Mae'n rhaid cael ateb cyn gynted 芒 phosib er mwyn cadw hyder ein buddsoddwyr, felly dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wrando ar bobl de Cymru a rhoi'r caniatad i'r cynllun nawr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod nhw'n "ystyried argymhellion adroddiad Charles Hendry ac yn cymryd eu hamser i benderfynu beth fyddai orau i ddefnyddwyr trydan ym Mhrydain a'r trethdalwyr yn y dyfdol hefyd".