'Syniadau cyferbyniol' wrth wraidd ymddiswyddiad Coleman
- Cyhoeddwyd
"Syniadau cyferbyniol" oedd wrth wraidd penderfyniad Chris Coleman i ymddiswyddo fel rheolwr Cymru.
Dywedodd yn ei gynhadledd gyntaf i'r wasg ers arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i fod yn rheolwr newydd Sunderland ei bod hi'n amser iddo "symud ymlaen".
Daeth cadarnhad nos Wener gan Gymdeithas B锚l-droed Cymru bod Coleman wedi ymddiswyddo wedi bron i chwe blynedd yn arwain y t卯m cenedlaethol.
Yn 么l Coleman: "Unwaith ei bod hi'n amlwg bod fy syniadau'n wahanol i rai swyddogion Cymdeithas B锚l-droed Cymru, roedd hi'n amser i symud ymlaen."
"Doeddwn i ddim yn teimlo mai fi oedd y person iawn i fynd a'r t卯m ymlaen i'r cyfeiriad roeddwn i eisiau mynd iddo."
'Cymro angerddol'
Fe gymerodd Coleman ei sesiwn ymarfer cyntaf fore Sul cyn i'w d卯m newydd, sydd ar waelod y Bencampwriaeth, wynebu Aston Villa nos Fawrth.
Yn ei gyfweliad cyntaf 芒'r 大象传媒 ers i Coleman ymddiswyddo, dywedodd is-reolwr Cymru Osian Roberts mai ei ddymuniad ef fyddai i Gymro olynu Coleman.
Mewn cyfweliad ar raglen Camp Lawn, dywedodd Roberts: "I mi yn bersonol fel Cymro angerddol, buaswn i'n dymuno mai Cymro sydd wrth y llyw ond ar yr un pryd mae fy meddwl i'n hollol agored."
Ychwanegodd fod y ddwy ochr wedi ceisio dod i gytundeb pan oedd trafodaethau'n digwydd ond bod "p诺er ariannol aruthrol" gan y clybiau mawr.
"Ro'n i wedi gobeithio y byddai'r ddwy ochr yn gallu dod ynghyd a chytuno i symud ymlaen.
"Dwi'n meddwl bod y ddwy ochr wedi trio... ond y realiti ydy bod p诺er ariannol y clybiau mawr yn aruthrol."
'Anrhydedd'
Yn y gynhadledd i'r wasg ychwanegodd Coleman ei fod yn dymuno gweld Cymro yn ei olynu i reoli'r t卯m cenedlaethol.
"Hoffwn weld Cymro yn cymryd drosodd, oherwydd am sawl blwyddyn bellach rydym wedi bod yn adlewyrchu ffordd Cymru o wneud pethau.
"Felly dwi'n teimlo byddai hi'n rhagrithiol i fynd gyda hyfforddwr o dramor.
"Dwi'n credu dylai pethau aros y tu fewn, ac mae'n rhaid credu yn y system sy'n bodoli.
"Allai ddim enwi neb gan nad oes gen i un i'w gynnig.
"Roedd Cymru yn bleser mawr. Dyna'r anrhydedd mwyaf i mi erioed ei chael i arwain fy ngwlad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2017