Parc Gwyddoniaeth Menai: Cyhoeddi enwau busnesau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae parc gwyddoniaeth newydd gwerth 拢20m ar Ynys M么n wedi cyhoeddi enwau'r busnesau cyntaf fydd yn symud i'r ganolfan.
Mae disgwyl y bydd Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), sy'n rhan o Brifysgol Bangor, yn agor yn gynnar yn 2018.
Mae'r parc, sy'n gobeithio bod yn hwb i gwmn茂au yn y sector wyddoniaeth a thechnoleg, yn dweud fod 11 o gwmn茂au yn barod i gymryd eu lle yn yr adeilad ger Y Gaerwen ar yr ynys.
Y nod yn wreiddiol oedd creu dros 700 o swyddi ar y safle, ond fe ddywedodd y rheolwyr yn ddiweddarach fod y ffigwr yn nes at 350.
Mae'r tenantiaid yn cynnwys amrediad eang o sefydliadau, o gwmn茂au newydd sy'n ymwneud 芒 thechnoleg gwybodaeth a deunyddiau carbon isel, i gwmn茂au mawr o fewn y sector gweithgynhyrchu.
'Mynd tu hwnt i dargedau'
Dywedodd cyfarwyddwr y parc gwyddoniaeth, Ieuan Wyn Jones ei fod wedi ei gyffroi gyda'r datblygiad diweddaraf.
"Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer y tenantiaid fydd yma ar y diwrnod cyntaf, mae'n bleser mawr felly ein bod wedi mynd tu hwnt i'r targedau hynny," meddai.
"Ein nod yw helpu cwmn茂au i dyfu ac roedd angen inni sicrhau bod gennym y gofod iddynt wneud hynny.
"Mae'r galw wastad wedi bod yno, ond wrth i ddiddordeb yn y parc dyfu, fe dyfodd y galw hefyd."
Ychwanegodd: "Mae'n galonogol gweld bod llawer o'r cwmn茂au'n lleol i'r rhanbarth, yn ogystal 芒 rhywfaint o fewnfuddsoddiad newydd."
Un o'r cwmn茂au newydd fydd yn symud i'r parc fydd Ambionics - cwmni o Borthaethwy sy'n datblygu technoleg arbenigol i gynorthwyo plant sydd heb freichiau.
Dywedodd sylfaenydd y cwmni, Ben Ryan, fod cael lle fel M-SParc yn galluogi iddo newid y ffordd mae ei gwmni yn gweithredu.
"Mae'r gefnogaeth fusnes rwyf wedi ei dderbyn fel darpar denant wedi bod yn amhrisiadwy, ni allaf aros nes byddai yn symud i mewn ac yn dechrau gweithio gyda phobl o faesydd tebyg."Y cwmni mwyaf fydd yn symud i'r parc fydd Loyalty Logistix, cwmni sy'n darparu gwasanaethau cyfrifiadurol i'r diwydiant ceir, sydd ar hyn o bryd wedi ei leoli ym Mangor, ac yn cyflogi 50 o bobl.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes: "Mae'r parc gwyddoniaeth newydd eisoes yn rhoi cyfle gwych i bobl a chwmn茂au lleol i sefydlu eu hunain yn yr ardal, ac i elwa o arbenigedd oddi fewn i'r Brifysgol.
"Rwyf yn hapus iawn gyda'r datblygiad hyd yma, ac yn edrych ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth fel mae'n creu cyfleoedd a swyddi newydd yn y rhanbarth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Mai 2015
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2015