Abad yn ymddiheuro am fethiannau honiadau Ynys B欧r
- Cyhoeddwyd
Mae abad presennol Ynys B欧r wedi ymddiheuro am na chafodd honiadau bod mynach wedi cam-drin merched ifanc yn rhywiol ar yr ynys eu cyfeirio at yr awdurdodau.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Brawd Daniel van Santvoort bod yr abaty "wedi gweithio i sicrhau na ddigwyddith yr un peth eto byth" a'u bod wedi llunio "canllawiau gwarchod plant cadarn".
Dywedodd bod yr honiadau yn erbyn y Tad Thaddeus Kotik yn "destun tristwch a gofid mawr" iddo pan ddaethon nhw i'w sylw.
Bellach mae 11 o fenywod yn honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin pan oedden nhw'n blant gan y mynach.
Gresynu unrhyw niwed
Ychwanegodd datganiad yr abad: "Dylai unrhyw honiadau o gam-drin plant gael eu trosglwyddo i'r awdurdodau perthnasol a'u hymchwilio.
"Yn amlwg, ni ddigwyddodd hynny ac rydyn yn ymddiheuro.
"Mae'n wir ddrwg gen i na gysylltodd fy rhagflaenwyr 芒'r heddlu yngl欧n 芒'r honiadau a bod yr abaty wedi cymryd cyhyd i gywiro'r cam."
Bu farw'r Tad Thaddeus Kotik yn 1992. Bu farw'r Tad Robert O'Brien - yr abad rhwng 1971 a 1987 pan ddigwyddodd y camdriniaeth honedig - yn 2009.
Ymunodd y Brawd Daniel 芒'r abaty yn 1990, ac fe gafodd ei benodi'n abad yn 1999.
Dywedodd mai yn 2014 y daeth i wybod am yr honiadau ar 么l i un o'r merched sy'n honni iddi gael ei cham-drin gysylltu ag o.
Fe gyfeiriodd y mater i'r heddlu ac i gyfreithwyr yr abaty, ac fe gadarnhaodd bod yr abaty wedi talu iawndal i chwech o fenywod yn 2016 heb wrandawiad llys.
Dywedodd y Brawd Daniel y bydd yr abaty'n cydweithio ag unrhyw ymchwiliadau pellach i'r achos, ac mae wedi penodi cydlynydd gwarchod plant.
Ychwanegodd: "Fe gymrais bob cam gyda thosturi, gan fynegi fy nhristwch a gofid ynghylch y fath gamdriniaeth. Fe wnes i hedfan i Awstralia i gyfarfod dwy o'r menywod, ac yn arbennig er mwyn ymddiheuro.
"Fel Abad, rwy'n gresynu unrhyw niwed gafodd ei achosi o ganlyniad gweithredoedd aelod o'n cymuned, ac rwy'n ymdrechu i wneud yn siwr bod ymwelwyr ag Ynys B欧r yn cael dim byd ond heddwch, cysur a lles."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017