大象传媒

Annog ffermwyr i fanteisio ar ymchwil genetig newydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

John Owen, rheolwr ffermydd Coleg Sir G芒r sy'n esbonio'r ymchwil geneteg

Mae ffermwyr mewn rhannau o Gymru sydd wedi'u taro waethaf gan y dici芒u yn cael eu hannog i wneud penderfyniadau bridio allai helpu eu hanifeiliaid wrthsefyll y clefyd.

Yn 么l Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) mae'r ymchwil ddiweddaraf ar eneteg gwartheg yn darparu "arf arall" yn erbyn TB.

Fe gynhaliodd yr undeb weithdy yn ddiweddar gyda datblygwyr rhestr genetig cynta'r byd o deirw sy'n dangos gwrthiant i'r clefyd.

Mae'r rhestr yn galluogi ffermwyr i weld y potensial sy' gan unrhyw darw penodol o basio gwrthiant i TB ymlaen i'w loi.

Ers mis Hydref, mae ffermwyr Cymru wedi wynebu cyfyngiadau newydd gyda'r nod o gael gwared ar y dici芒u.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tua 拢150m wedi'i dalu i ffermwyr sydd wedi colli gwartheg drwy gynllun gwaredu TB Llywodraeth Cymru

Mae'n amserol felly ac yn "bwysig dan yr amodau" i drafod r么l geneteg wrth liniaru effeithiau TB mewn gwartheg yn 么l Hazel Wright, Uwch Swyddog Polisi UAC.

"Oherwydd does 'na ddim brechlyn ar hyn o bryd, gallwn ni ddim gwarchod ein gwartheg ni fel y bydden ni'n gwneud ar gyfer unrhyw fath arall o glefyd."

"Felly mae hyn o bosib yn ffordd arall o ddiogelu ein hanifeiliaid.

"Dyw e ddim yn ateb perffaith, ond ar rai ffermydd lle mae TB yn broblem fawr falle bydd hyn yn rhywbeth maen nhw'n awyddus i'w ystyried."

Cafodd yr ymchwil gwreiddiol i eneteg TB ei wneud ar y cyd gan Brifysgol Caeredin, Sefydliad Roslin a Choleg Gwledig yr Alban gyda chefnogaeth ariannol Llywodraethau Cymru a'r DU.

Dangosodd eu gwaith bod yna amrywiad genetig rhwng anifeiliaid a sefydlwyd i ba raddau mae modd etifeddu gwrthiant i TB.

Dyna wedyn oedd gwraidd y rhestr genetig, gafodd ei lunio gan yr Agriculture and Horticulture Development Board (AHDB), corff sy'n cael ei ariannu gan ffermwyr y DU i wneud gwaith ymchwil ar eu rhan.

Mae'r rhestr ar gael ar gyfer holl fridiau llaeth yn y DU.

Mae'r raddfa'n ymestyn o -3 i +3. Ar gyfer pob +1, mae disgwyl i 1% yn llai o loi'r tarw gael eu heintio.

Disgrifiad,

Mae'n rhaid i ffermwyr edrych ar sawl agwedd pan maen nhw'n bridio medd Brian Walters

Dywedodd Andy Dodd, Rheolwr Technegol AHDB wrth 大象传媒 Cymru y dylai defnyddio'r rhestr TB i ddewis teirw fod yn rhan o ymateb ffermwyr i'r bygythiad y mae'r clefyd yn ei gynnig i'w busnesau.

"Dylai pob ffarm fod yn edrych ar hyn wrth ddewis teirw," meddai.

"Dwi'n credu ein bod ni'n bell o weld gwartheg sydd wedi'u hamddiffyn yn llwyr rhag TB, ond tra bydd ffermwyr yn defnyddio teirw sy'n dangos gwell gwrthiant fe fyddwn ni'n dechrau gweld llai a llai o anifeiliaid yn cael eu tynnu oddi ar ffermydd a'u difa."

Diciau ar ei lefel isaf

"Mae'n ymdrech hirdymor - fe fydd hi ddegawd o leiaf cyn i ni weld y buddion yn llawn.

"Ond mae'n rhaid i hyn gael ei ddefnyddio ar y cyd ag unrhyw fesurau eraill i leihau'r risg o TB ar ffermydd y wlad."

Yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf mae tua 拢150m wedi'i dalu i ffermwyr sydd wedi colli gwartheg drwy gynllun gwaredu TB Llywodraeth Cymru.

Cafodd 9,808 o wartheg eu lladd mewn 12 mis hyd at Awst 2017.

Ond mae'r ffigyrau diweddaraf hefyd yn awgrymu bod dici芒u ar ei lefel isaf ers 12 mlynedd, gyda dros 95% o ffermydd Cymru bellach yn rhydd o'r clefyd.

Mae strategaeth newydd wedi rhannu'r wlad yn ardaloedd o risg isel, canolig ac uchel, gyda thua 60 o ffermydd sydd 芒 phroblemau hirdymor wedi derbyn cynlluniau gweithredu penodol.

Disgrifio'r cyfyngiadau TB Cymreig fel y llymaf yn y byd mae undebau amaeth.

Mae Brian Walters, llefarydd UAC ar y clefyd, yn dweud ei fod wedi bod "mewn a mas 芒 TB" ers degawd ar ei fferm ger Caerfyrddin.

Un ystyriaeth i ffermwyr

"Ar hyn o bryd ry'n ni'n glir, ond yn ystod yr amser yna y'n ni si诺r o fod wedi colli rhyw 200 o wartheg."

Disgrifio'r pwyslais newydd ar eneteg fel datblygiad "eithaf cyffrous" mae Mr Walters ond pwysleisio ei fod yn un ystyriaeth i ffermwyr, sydd hefyd yn gorfod meddwl am nifer o agweddau eraill wrth bridio.

"Ydy'r tarw yn mynd i roi plant sy'n cynhyrchu llaeth fel y'n ni moyn, yr ansawdd iawn, ydy'u traed yn iawn, eu cadeiriau yn iawn?"

"Mae 'na lot o bethe da ni edrych arno, ac un agwedd arall fydd hwn."