Honiadau bwlio: Ymchwiliad annibynnol i Carwyn Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyfeirio'i hun at ymchwiliad annibynnol, yn dilyn honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn dyddio 'n么l i 2014.
Penderfynodd Mr Jones i sefydlu system annibynnol newydd i oruchwylio'r cod ar gyfer gweinidogion, fel sydd eisoes yn digwydd yn Yr Alban.
Yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant, roedd y cyn-weinidog Leighton Andrews a'r cyn-ymgynghorydd Steve Jones wedi gwneud honiadau o fwlio ac "awyrgylch wenwynig" o fewn gweinyddiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Carwyn Jones yn wynebu pleidlais yn y Senedd ddydd Mercher nesaf, yn sgil ymgais ar wah芒n gan y gwrthbleidiau i'w orfodi i ateb cwestiynau o flaen panel o ACau.
Ymchwiliad preifat
Yn gynharach ddydd Iau dywedodd rhai Aelodau Cynulliad Llafur wrth 大象传媒 Cymru eu bod eisiau gweld ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i'r honiadau o fwlio.
Mae ffynonellau o fewn Llywodraeth Cymru nawr yn gobeithio y bydd y cyhoeddiad diweddaraf yn perswadio ACau i beidio 芒 chefnogi cynnig y Ceidwadwyr.
James Hamilton, sydd ar hyn o bryd yn Ymgynghorydd Annibynnol i Lywodraeth Yr Alban, fydd yn cynnal yr ymchwiliad i'r honiadau o fwlio.
Bydd yr ymchwiliad yn un preifat, ond fe fydd y canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi.
Ddydd Mercher nesaf bydd ACau'n pleidleisio ar gynnig gan y Ceidwadwyr yn galw ar y pwyllgor trawsbleidiol sy'n ymchwilio i'r Prif Weinidog i sefydlu ymchwiliad.
Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Carwyn Jones ddweud nad oedd wedi derbyn "unrhyw honiadau penodol o fwlio" - gan gyfaddef fodd bynnag fod materion wedi codi o ganlyniad i "bobl weithiau'n anhapus gyda'r ffordd roedd pethau'n digwydd".
Ychwanegodd fod "tensiwn" yn bodoli'n aml o fewn gwleidyddiaeth, gan ddweud: "Byddai'n parhau i ddelio 芒'r tensiynau hynny mewn ffordd mor deg 芒 phosib."
Mae ymchwiliad gwahanol eisoes wedi ei gomisiynu i'r ffordd y cafodd Carl Sargeant ei drin yn y cyfnod yn arwain at ei farwolaeth, pan gollodd ei swydd fel gweinidog yn y cabinet.
'Tryloywder'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod yr ymchwiliad annibynnol yn "gam positif", a'i fod yn "parhau'n hanfodol fod ACau yn cael y cyfle i graffu ar y Prif Weinidog".
"Mae angen sicrwydd pendant gan yr Ysgrifennydd Parhaol dros dryloywder yr ymchwiliad sydd i ddod, ac amserlen glir ar bryd allwn ni ddisgwyl i'r canfyddiadau gael eu cyhoeddi," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y dylai'r cyhoeddiad fod wedi dod yn "llawer cynt", a bod angen "tryloywder llwyr" yn y broses.
"Mae angen i ni nawr weld manylion a chael eglurdeb yngl欧n ag a fydd unrhyw ailgyfeiriad yn digwydd ar wah芒n i'r ymchwiliad annibynnol sydd eisoes wedi ei gyhoeddi."