大象传媒

Marwolaeth tractor Boncath: Cyhoeddi enw dyn

  • Cyhoeddwyd
Ryan David LewisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Ryan David Lewis yn y digwyddiad fore Mawrth

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud 芒 thractor ger Boncath, ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Bu farw Ryan David Lewis, 61, yn y digwyddiad ar safle gyferbyn 芒 chwmni Caws Cenarth am 10:20 fore Mawrth.

Yn 么l y Gwasanaeth Ambiwlans, cafodd Mr Lewis ei gludo i Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, ble bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Caws Cenarth ar y pryd: "Fe allwn gadarnhau bod digwyddiad wedi bod ar dir gerllaw Caws Cenarth, doedd yr un o aelodau Caws Cenarth yn rhan o'r digwyddiad.

"Fe ddigwyddodd y digwyddiad ar Fferm Glyneithinog, sef y safle lle mae Caws Cenarth wedi ei leoli."

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod wedi cael gwybod am y digwyddiad a'u bod yn cynorthwyo Heddlu Dyfed Powys gyda'u hymchwiliad.

Mae cwest i farwolaeth wedi cael ei agor a'i ohirio.