大象传媒

Digwyddiad i nodi 800 mlynedd ers y Siartr Coed

  • Cyhoeddwyd
bute
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ym Mharc Bute ddydd Sadwrn

Wrth nodi 800 mlynedd ers llofnodi'r Siartr Goedwigaeth wreiddiol, mae elusen wedi mynd ati i greu siartr o'r newydd i ddiogelu coedwigoedd.

Fe fydd elusen Coed Cadw yn codi deg o bolion derw, sydd wedi'u cerflunio 芒 llaw ar draws y DU.

Fe fydd yr unig bolyn i gael ei godi yng Nghymru, yn cael ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn, ym Mharc Bute, Caerdydd, ac mae Coed Cadw wedi gwahodd y cyhoedd i ymuno yn y digwyddiad sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Caerdydd.

Mae cerdd arbennig wedi'i chomisiynu ar gyfer y digwyddiad, gan Fardd Cenedlaethol Pobl Ifanc Cymru, Sophie McKeand, ac mae'r gerdd wedi'i ysgrifennu ar y polyn.

'Lleoliad trawiadol'

Fe fydd Sophie McKeand yn darllen y gerdd fel rhan o'r digwyddiad, ac fe fydd ymwelwyr yn gallu mwynhau perfformiadau acwstig gan gerddorion gwerin Cymreig traddodiadol ac ystod o weithgareddau.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys teithiau cerdded drwy'r coed yn y parc.

Dywedodd Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden ar Gyngor Dinas Caerdydd, y Cyng. Peter Bradbury: "Mae presenoldeb coed wedi cael effaith wirioneddol ar iechyd, lles a hapusrwydd pobl, felly rydyn ni'n ffodus bod gennym y lleoliad trawiadol hwn ym Mharc Bute yng nghanol y ddinas.

"O ystyried treftadaeth ddiwylliannol a chreadigol gyfoethog Caerdydd, mae'n addas bod un o'n parciau gorau ni wedi cael ei ddewis i ddathlu egwyddor Siarter y Coed sy'n cydnabod effaith coed ar ein diwylliant."