大象传媒

Atgyfodi papur newydd Y Cymro

  • Cyhoeddwyd
Y Cymro

Mae gr诺p Cyfeillion y Cymro, wedi cyhoeddi y bydd y papur newydd yn dychwelyd ar newydd-wedd.

Fe fydd y papur yn cael ei gyhoeddi yn fisol, ac mae'r trefnwyr wedi addo y bydd yn llais "cryf, annibynnol a modern i'r Cymry Cymraeg".

Mae'r cynllun wedi derbyn nawdd o 拢13,500 gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Dywedodd Lyn Ebenezer, Cadeirydd Cyfeillion y Cymro:

"Mae hyn nawr yn rhoi llwyfan i ni weiddi: mae'r Cymro ar ei ffordd yn 么l, ar ei newydd wedd, ar amser pan mae Cymry Cymraeg angen llais cryf, newyddiaduraeth ac ysgrifennu ffraeth a phlatfform i rannu syniadau.

"Yn ystod amser o newidiadau mawr, gyda thoriadau gwariant, Brexit a chwestiynau di-ri yngl欧n ag ein cymunedau a'n hiaith, mae'n hollbwysig bod gennym ni fel cenedl blatfform fel Y Cymro i rannu barn yn ein hiaith ein hunain.

"Os ydych am weld papur newydd yn y Gymraeg yn llwyddo dewch i'n cefnogi ni."

Cafodd rhifyn olaf Y Cymro ei gyhoeddi ddiwedd Mehefin, gan ddod 芒 thraddodiad oedd wedi para 85 o flynyddoedd i ben.

Dywedodd y perchnogion ar y pryd, cwmni Tindle, y bydden nhw yn fodlon gwerthu'r papur, a daeth criw at ei gilydd yn fuan wedyn i drafod syniadau gyda'r gobaith o'i atgyfodi.

Mae'r papur yn gobeithio ail-lansio ar Ddydd G诺yl Dewi.