'Cefnu' ar stad dai ers llifogydd 2012
- Cyhoeddwyd
Mae un o Aelodau Cynulliad y gogledd wedi cyhuddo cwmni adeiladu tai o droi cefn ar stad yn Sir Ddinbych wedi llifogydd difrifol bum mlynedd yn 么l.
Mae'r AC Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn beirniadu Taylor Wimpey am beidio gorffen gwaith adeiladu yn stad Glasdir yn Rhuthun ac am fethu 芒 gwneud gwaith cynnal a chadw yno.
Cafodd dros 120 o gartrefi'r stad eu heffeithio gan lifogydd yn Nhachwedd 2012.
Dywedodd llefarydd ar ran Taylor Wimpey eu bod wedi ymrwymo i gwblhau'r cartrefi sy'n weddill.
Yn 么l Mr Gruffydd, does dim gwaith wedi ei wneud yn achos tri chartref oedd wedi eu hanner adeiladu adeg y llifogydd.
Mae o hefyd yn honni bod chwe chartref arall wedi eu gadael er bod eu sylfeini wedi eu gosod, a bod gwaith heb gychwyn o gwbwl i adeiladu 20 yn rhagor o dai.
'Mae'n edrych yn ddrwg'
Ychwanegodd fod trigolion y stad "yn haeddu esboniad pam nad oes unrhyw waith cynnal a chadw wedi ei wneud, a pham bod hi'n ymddangos fel petae rhannau o'r stad wedi cael eu gadael."
"Yn naturiol maen nhw'n poeni y gallai hyn gael effaith negyddol ar y stad ac ar werth eu cartrefi."
Yn 么l un o'r trigolion, Elena Vardoulaki, mae Glasdir yn le braf i fyw ac yn debygol o apelio at fwy o deuluoedd gan fod ysgol gynradd newydd yn cael ei chodi ar dir cyfagos.
"Mae'n drueni bod rhai o'r tai wedi cael eu gadael, a bod 'na blotiau wedi eu gadael yn wag. Mae'n edrych yn ddrwg."
Mae un o gynrychiolwyr Rhuthun ar Gyngor Sir Ddinbych yn galw am "sicrwydd y bydd y stad yn cael ei chwblhau yn unol 芒'r addewid".
Dywedodd y cyngorydd Plaid Cymru Emrys Wynne ei fod yn credu bod hi'n ddyletswydd ar y datblygwr tai i gynnal a chadw'r stad tan y bydd yr awdurdod lleol yn mabwysiadu cyfrifoldeb amdani, ac mae'n disgwyl i'r cwmni anrhydeddu'r fargen.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Taylor Wimpey North West bod y cwmni "wedi ymrwymo i gwblhau'r cartrefi sy'n weddill a'r datblygiad yn ei grynswth unwaith y daw cefnogaeth lawn gan y cwmn茂au yswiriant a'r benthycwyr morgais."
"Rydym yn gweithio'n galed i gael y gefnogaeth yna ac fe wnawn ni roi gwybodaeth i drigolion wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau."
Mewn adroddiad i'r hyn aeth o le pan orlifodd Afon Clwyd yn 2012, daeth Cyngor Sir Ddinbych i'r casgliad bod ceuffosydd wedi cau gan achosi methiant amddiffynfeydd oedd i fod i warchod y stad mewn argyfwng o'r fath.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013