Dadl yn y Senedd ar 'scam' insiwleiddio cartrefi
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun dadleuol i arbed ynni drwy insiwleiddio cartrefi yn destun dadl yn y Senedd ddydd Mercher.
Mae degau o filoedd o gartrefi yng Nghymru eisoes wedi cael deunydd insiwleiddio wedi'i osod dros y degawd diwethaf, ond mae cannoedd wedi eu gadael gyda thai oer a thamp.
Mae nifer nawr yn wynebu biliau i gael tynnu'r deunydd, ac maen nhw'n dweud nad yw cynllun gwarant oedd i fod i helpu yn addas i'w bwrpas.
Mae AC Llafur Mick Antoniw wedi codi'r mater yn y Cynulliad ar 么l clywed am drafferthion gan ei etholwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael 芒'r materion hyn" drwy eu cynlluniau - Nest ac Arbed.
'Ddim yn addas'
"Y bwriad yw dangos bod gennym scam enfawr yn digwydd," meddai.
"Dyw tri chwarter o Gymru ddim yn addas ar gyfer CWI (Cavity Wall Insulation) ond dyna'r ardaloedd sy'n cael eu targedu.
"Mae degau o filoedd o bobl wedi cael CWI. Dwi wedi bod yn gweithio ar hyn ers cwpwl o flynyddoedd gydag etholwyr yn Rhydyfelin, ond dyw maint y peth, a maint y twyll heb gael ei ddatgelu'n ddigonol."
O'r 1.3m o gartrefi yng Nghymru mae gan tua 900,000 waliau dwbl, ac mae tua 50% o'r rheini wedi cael eu hinsiwleiddio naill ai pan gafon nhw'u codi neu ers hynny.
Ond gosod yr insiwleiddio yn 么l-weithredol sy'n achosi problemau, ond er gwaetha' cwynion ac adroddiad i'r Cynulliad, mae'r deunydd yn dal i gael ei gynnig i gartrefi yng Nghymru drwy nifer o gynlluniau arbed ynni.
Yn gynharach eleni fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyllid o 拢104m i'r rhaglen Cartrefi Cynnes er mwyn cynyddu effeithlonrwydd 25,000 o dai. Mae'r cyllid yn cynnwys gosod CWI.
Mae'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn rhannu'r DU i bedwar parth o'r sychaf i'r gwlypaf.
Mae'r rhan fwyaf o Gymru ym Mharth 4, sef y gwlypaf, ac mae'r corff yn rhybuddio am drafferthion os am ddefnyddio CWI yn y parth hwnnw gan y gallai glaw fynd drwy'r deunydd insiwleiddio o'r wal allanol i'r wal fewnol, ac achosi lleithder yn y cartref.
Bydd y mater yn cael ei drafod yn y Senedd ddydd Mercher, gan gynnwys galwad gan un gr诺p ymgyrchu i atal gosod CWI mewn unrhyw eiddo yng Nghymru.
'Ymwybodol o gwynion'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "ymwybodol o nifer fechan o gwynion" yn ymwneud 芒 chynlluniau sy'n cael eu hariannu gan y llywodraeth, ond bod mwyafrif y cwynion yn ymwneud 芒 chynlluniau cyflenwyr ynni.
Aeth llefarydd ymlaen i ddweud eu bod "yn cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael 芒'r materion hyn yn ein cynlluniau Nest ac Arbed newydd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd28 Awst 2015