大象传媒

Cymdeithas y C诺n Defaid Cymreig yn mynd yn rhyngwladol

  • Cyhoeddwyd
Eli
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eli'n un o'r 2,500 o g诺n sydd ar gofrestr Cymdeithas y C诺n Defaid Cymreig

Ugain mlynedd ers ei sefydlu, mae Cymdeithas y C诺n Defaid Cymreig wedi mynd yn rhyngwladol.

Am y tro cyntaf erioed, mae c诺n wedi cael eu cofrestru yn Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.

Cafodd Cymdeithas y C诺n Defaid Cymreig ei sefydlu yn 1997, wrth i'r rheiny oedd yn frwdfrydig am y brid boeni bod y math arbennig yma o gi ar fin marw allan.

Yn 2017, mae gan y gymdeithas 2,500 o g诺n defaid Cymreig pur ar eu cofrestr.

Ffordd unigryw o weithio

Mae John Davies o Lanilar yn un o'r bobl fu'n frwdfrydig am sefydlu Cymdeithas y C诺n Defaid Cymreig.

Yn 1997, cafodd drafferth dod o hyd i gi ar gyfer gast Gymreig oedd yn berchen iddo.

"60 mlynedd yn 么l, roedd c诺n Cymreig i'w cael ar lawer iawn o ffermydd," meddai.

"Yn y blynyddoedd wedyn, daeth y treialon yn fwy poblogaidd, gyda'r Border Collie o'r Alban yn dominyddu gyda'r gwaith treialon."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd John Davies o Lanilar yn rhan o sefydlu Cymdeithas y C诺n Defaid Cymreig

Mae gan g诺n Cymreig ffordd unigryw o weithio, gyda sgiliau hela cryf, cynffon uchel a chyfarthiad awdurdodol.

Mae'r c诺n Cymreig yn gallu amrywio mewn maint, lliw a nodweddion gweledol.

Ychwanegodd Mr Davies: "Aeth y ci Cymreig allan o ffasiwn yn sydyn iawn wrth i bobl ddechrau eu croesi [gyda bridiau eraill].

"Aeth y c诺n Cymreig yn brin iawn a dwi'n grediniol iawn y byddai'r math yma o gi wedi marw allan."

2,500 wedi'u cofrestru

Yn 1997, dim ond 80 o g诺n pur oedd i'w cael yng Nghymru.

O'r 80, dim ond 60 oedd yn gallu cael eu hychwanegu at y gofrestr genedlaethol.

Roedd y prinder mewn nifer hefyd yn cyfyngu ar y broses fridio.

Erbyn 2017, mae'r ffigwr wedi codi i dros 2,500, gyda'r c诺n cyntaf yn cael eu cofrestru yn rhyngwladol eleni.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Zuzana Holmanova wedi cofrestru dau gi Cymreig pedigr卯 yn y Weriniaeth Tsiec

Yn y Weriniaeth Tsiec, mae Zuzana Holmanova wedi cofrestru c诺n defaid Cymreig am y tro cyntaf erioed.

"Buom ni yn y Sioe Amaethyddol rhyw chwech neu saith mlynedd yn 么l ym mhencampwriaeth cneifio'r byd," meddai.

"Dyna ble gwelsom ni'r math yma o gi am y tro cyntaf, ac roedden ni wrth ein bodd gyda nhw."

'Diddordeb cynyddol'

Mae Ms Holmanova bellach wedi cofrestru dau gi Cymreig pedigr卯, gyda 25 o g诺n bach o'r un gwaed yn gobeithio cael eu cofrestru y flwyddyn nesaf.

"Mae 'na ddiddordeb cynyddol yn y br卯d Cymreig ymysg ffermwyr yn y Weriniaeth Tsiec," meddai.

"Mae'r c诺n Cymreig yn wahanol i'r Border Collie sy'n gyffredin yma.

"Mae'r c诺n o Gymru yn gallu dysgu gweithio heb hyfforddiant proffesiynol, yn syth gyda'r ffermwr, fel maen nhw'n dymuno."