´óÏó´«Ã½

Byw o ddydd i ddydd gyda bag ileostomi

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhifyn diweddaraf rhaglen Caryl Parry Jones ar ´óÏó´«Ã½ Radio Cymru yn trafod mater sydd yn parhau'n tabŵ hyd heddiw.

Yn y rhaglen, mae defnyddwyr bagiau colostomi neu ileostomi yn rhannu eu profiadau ac mae eu straeon grymus yn brawf o'u penderfyniad i orchfygu anawsterau.

Mae cyfle i chi glywed yr hanesion i gyd ar wefan y rhaglen, ond dyma hanes Judith Owen o Lanwnda, ger Caernarfon:

Mae'r stori'n dechrau ryw ugain mlynedd yn ôl. Mi wnes i ddechrau dioddef o diarrhoea ofnadwy. O'n i'n cael poenau mawr yn fy mol ac am ddwy flynedd mi fues i'n mynd at y meddyg.

Mi dd'edodd o 'falla fod gen i ddolur gwddw, 'falla fod gen i iselder… ond 'nath o ddim cymryd llawer o sylw o'r poen bol. Ches i erioed brawf gwaed ac mi dd'edodd o, hyd yn oed, fod gen i 'gwymp y dail' ac nad oedd hynny'n gwneud i mi deimlo'n dda.

Roedd yn dweud fod gen i bob math o bethau, ac o'n i'n gadael y lle yn dweud, "Na, nid dyna be' ydy o. 'Sgen i ddim dolur gwddw, dydw i ddim yn isel."

Poen cefn yn rhybudd

Yn y diwedd, mi ges i boen ofnadwy yn fy nghefn. Do'n i ddim yn gallu rhoi un droed o flaen y llall ac mi awgrymodd ffrind fy mam-yng-nghyfraith y dylwn i weld chiropractor.

Felly dyma fi'n mynd y prynhawn yna i Fangor i weld chiropractor, a dyma fo'n cyffwrdd mewn un lle ar fy nghefn i ac mi rois i gymaint o sgrech - mae Siân, fy mam-yng-nghyfraith, yn cofio neidio allan o'i sedd yn y 'stafell aros.

Mi dd'wedodd y chiropractor, "There's nothing wrong with your back, but you've got serious inflammation in your bowel, and you need to sort it."

I'r ysbyty yn syth

Aeth Dad â mi i'r A&E yn Wrecsam Maelor, a dwi'n cofio geiriau'r doctor yn Wrecsam: "I've got two lots of good news for you today. The first is I've been able to diagnose you, and the diagnosos is colitis."

Felly mi wnes i ofyn iddo fo be' allai'r newyddion arall gwaeth fod wedi bod. "O!" meddai, "allech chi fod wedi bod yn dioddef o Crohn's disease." A dyna fo. Aethon ni o 'na. Wedyn, mi ges i brofion eraill a dwi'n cofio rhywun yn dweud, "Actually, it is Crohn's and not colitis."

Ar y pryd o'n i'n meddwl, 'O! Mae hynna'n ofnadwy, be' dwi'n mynd i wneud rwan?' Wel, mi ges i fy rhoi dan ofal doctor oedd yn Ysbyty Gwynedd ar y pryd, Mr Jameson, ac mae fy niolch i mor fawr iddo fo, oherwydd mi 'nath o newid fy mywyd i!

Disgrifiad o’r llun,

Judith a'i merch, Neli

Penderfyniad anodd

Mi 'nath o 'neud y penderfyniad, caled ar y pryd, a dweud y byddai'n syniad da i mi gael colostomi. Y bwriad oedd rhoi cyfle i'r bowel gael gorffwys, ac wedyn ar ôl amser, mi fydden nhw'n gallu reversio'r stoma.

Dwi'n cofio geiriau Dad…"O! ti'm isio bag!" Dyna lle mae'r stoma'n byw, mewn bag ileostomi, ond dwi'n cofio dweud wrtho fo, "'sdim ots gen i be' maen nhw'n 'neud i mi. Fedra'i ddim dal i fyw fel hyn."

Ond, yn anffodus, ar ôl y colostomi mi ges i septicaemia, ac mi wnaethon nhw benderfynu mai'r ateb gorau oedd cael gwared ar y bowel yn llawn.

Cymlethdodau

Felly dwi 'di cael Pan-proctocolectomy, lle maen nhw'n tynnu pob darn o'ch coluddyn mawr ac maen nhw hyd yn oed yn gwnio eich pen-ôl chi. Mae'n dipyn o jôc yn ein tŷ ni, achos os oes rhywun yn pasio gwynt... wel 'dio ddim yn fi nac'dy?

Ond mi fuodd 'na lot o gymlethdodau. Mi ges i MRSA ac, ar un adeg, roedd gen i friw agored ar fy stumog oedd yn mesur tua 12 centimetr wrth 8 centimetr. Roedd Rhys, fy ngŵr, yn medru rhoi ei ddwrn cyfan i mewn ac, ar un adeg, ro'ch chi'n gallu gweld fy nghalon a'n ysgyfaint i, achos roedd yr MRSA wedi bwyta gymaint o'm tu mewn.

Dwi wedi bod mewn sefyllfa ddwy waith lle maen nhw 'di dweud wrth Rhys yn yr ysbyty, "paid â mynd adre' heno, 'dan ni ddim yn meddwl fydd Judith yn fyw bore fory."

Beth yw stoma?

Y stoma sydd ar fy nghorff i ydi darn o ngholuddyn i, sydd tu allan i nghorff i yn hytrach na thu mewn fel pawb arall. Mae o'n rhywbeth sydd yn byw - mae o'n goch ac mae'n union fel os fyddech chi'n cael llun o'ch colyddyn chi - mae'n edrych yn union 'run peth.

Mae newid bag ileostomi yn rhywbeth sy'n cymryd eiliadau. Yr unig beth ydy, mae'n rhaid i chi gael pob dim yn barod, achos mae 'na sawl tro pan dwi 'di gafael yn fy mhethau, yn barod i'w newid o, a'r funud 'dach chi'n tynnu'r bag, mi allai'r stoma benderfynu, 'O ia, mi gymra'i pŵ bach arall!' Ac mae o'n saethu allan... 'fatha bullets bach.

Felly dwi wedi addurno radiator y 'stafell 'molchi cyn heddiw. A dwi wedi addurno fi fy hun, ond does 'na ddim byd na all wet wipe ddim ei ddatrys.

Er mod i'n brifathrawes llawn amser mae gan fy ngŵr a fi fusnes meithrinfa blant ers 14 mlynedd.

Mae gynnon ni ferch, Neli, sy'n 9 oed. Fe gafodd Neli ei geni ar ôl triniaeth IVF ar ôl cymysgu hadau fy ngŵr efo wy fy chwaer i.

'Dan ni hefyd yn maethu plant ac ar hyn o bryd mae hogyn 16 oed yn byw efo ni. Mae o wedi byw efo ni rwan am bron i ddeunaw mis.