大象传媒

Galw am wersi am golli babanod fel rhan o addysg rhyw

  • Cyhoeddwyd
Heatherjane Coombs
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Heatherjane Coombs yn cefnogi rhieni eraill sydd wedi colli plentyn yn y groth

Dylai addysg am golli babanod yn y groth fod yn rhan o wersi addysg rhyw, yn 么l ymgyrchydd.

Dywedodd Heatherjane Coombs o elusen Sands bod colli plentyn yn dal i fod yn "dab诺".

Bu farw baban Mrs Coombs, Xander, yn y groth wedi 36 wythnos o feichiogrwydd yn 2003.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae gan ysgolion y rhyddid i gyflwyno'r pynciau sydd fwyaf addas ar gyfer anghenion eu disgyblion.

'Torcalonnus'

Fe ddywedodd Mrs Coombs, 44 oed o Drel谩i yng Nghaerdydd, bod "geni plentyn 'dych chi'n gwybod fydd byth yn crio, ar 么l clywed saith plentyn arall yn cael eu geni, yn dorcalonnus".

Dywedodd y byddai modd chwalu'r tab诺 "os ydyn ni'n targedu cynulleidfa ieuengach".

"Wedi'r sgan 12 wythnos, mae pobl yn dechrau dweud wrth eu teulu eu bod yn feichiog am eu bod yn meddwl eu bod yn ddiogel," meddai.

Dywedodd y byddai dweud wrth ddisgyblion nad ydy pob cyfnod o feichiogrwydd yn stori "hapus" yn ei wneud yn "bwnc hawdd allan nhw siarad amdano."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gan Mrs Coombs a'i g诺r wrthrychau i'w hatgoffa o Xander yn eu cartref

Yn 么l Naomi Stocks o Gaerdydd, mae pobl "yn hoffi meddwl nad ydy colli plentyn yn y groth yn digwydd".

Bu farw ei mab, Aneurin, yn bedwar diwrnod oed ar 么l iddo gael ei eni'n gynnar yn 2012. Mae ganddi bellach fab sy'n dair a hanner.

"Mae fy machgen bach i yn gwybod am ei frawd," meddai Ms Stocks, 38.

"Mae e'n mynd i weld ei fedd. I blant sydd 芒 brawd neu chwaer sydd wedi marw, mae'n haws iddyn nhw os ydych chi'n siarad am y peth."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ysgolion yn rhydd i gynnig "y pynciau hynny sy'n ateb gofynion a phrofiadau eu dysgwyr a'u cymunedau ehangach orau".

Ychwanegodd eu bod yn annog ysgolion "i weithio gyda darparwyr arbenigol i gefnogi ac ehangu eu darpariaeth o addysg lles emosiynol ac iechyd".