大象传媒

Ymchwiliad i honiadau o ollwng gwybodaeth am Carl Sargeant

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews wedi dweud ei fod yn credu bod eraill wedi cael gwybod o flaen llaw am ddiswyddiad Carl Sargeant

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol ymchwilio i honiadau fod manylion diswyddo Carl Sargeant wedi'u rhyddhau cyn iddo fo ei hun gael gwybod.

Fe gafodd Mr Sargeant ei yn dilyn honiadau yngl欧n 芒'i ymddygiad.

Cafwyd hyd i wedi iddo ddweud nad oedd wedi cael manylion y cyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae'r cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews, wedi dweud ei fod yn credu bod eraill wedi cael gwybod am y diswyddiad cyn iddo ddigwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Er nad oes tystiolaeth wedi dod i'r amlwg i gefnogi'r honiadau yma, mae'r Prif Weinidog wedi gofyn i'r Ysgrifennydd Parhaol edrych i'r mater."

'Gollwng gwybodaeth'

Mewn blog, mae Mr Andrews yn dweud ei fod yn credu bod newyddiadurwr, AC Llafur ac AS Llafur yn ymwybodol o'r hyn oedd am ddigwydd cyn yr ad-drefnu.

Ysgrifennodd: "A oedd y wybodaeth gafodd ei ollwng i'r AC Llafur, yr AS Llafur a'r newyddiadurwr wedi dod yn syth o'r 'pumed llawr' - llawr y gweinidogion - ynteu oedd y wybodaeth wedi dod gan rywrai eraill oedd wedi derbyn y wybodaeth gan ffynhonnell arall?

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mewn blog, mae Leighton Andrews yn dweud ei fod yn credu bod newyddiadurwr, AC Llafur ac AS Llafur yn ymwybodol o'r hyn oedd am ddigwydd cyn yr ad-drefnu

"Os hynny, pwy oedd y rhywrai eraill a pha fudd oedd ganddyn nhw i ollwng y wybodaeth, a pham gafodd y wybodaeth ei gollwng iddyn nhw a gan bwy?

"Yn y pendraw, mae'n rhaid bod y wybodaeth wedi cael ei gollwng gan rywun - neu rywrai - ar y pumed llawr.

"Dylai'r Ysgrifennydd Parhaol ymchwilio'n llawn i'r gollyngiad, os nad yw hi'n gwneud hynny'n barod ... i bob galwad, negeseuon testun ac e-byst gafodd eu hanfon gan y bobl berthnasol ar ddiwrnod yr ad-drefnu a'r diwrnodau yn arwain at hynny.

"Mae rhywun neu rywrai, wedi gollwng y wybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant. Tydi hyn erioed wedi digwydd o'r blaen cyn unrhyw ad-drefnu Llywodraeth Cymru. Mae'n ddigyffelyb. Felly pwy wnaeth ollwng? Ac i bwy? A faint o bobl oedd yn gwybod?"

Ymchwiliad

Bydd ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan gyfreithiwr QC yn edrych i'r amgylchiadau wnaeth arwain at farwolaeth Mr Sargeant.

Bydd ymchwiliad ar wah芒n yn edrych os wnaeth Mr Jones dorri'r cod gweinidogol drwy ateb cwestiynau - gafodd eu codi gan Mr Andrews - yngl欧n 芒 diwylliant "wenwynig" o fewn Llywodraeth Cymru yn dyddio'n 么l i 2014.

Fe wnaeth Mr Andrews adael Llywodraeth Cymru yn 2016 wedi iddo golli ei sedd yn Y Rhondda.