Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Atal cwmni ariannol am gyngor camarweiniol staff dur
Mae cwmni ariannol wedi colli'r hawl i roi cyngor pensiwn i weithwyr dur, wedi iddyn nhw ddarparu gwybodaeth gamarweiniol.
Daw hyn wedi i Aelodau Seneddol leisio pryderon fod gweithwyr wedi cael cyngor gan ymgynghorwyr anegwyddorol yn sgil yr ansicrwydd ynghylch Cynllun Pensiwn Dur Prydain.
Mae gan tua 130,000 o aelodau tan 22 Rhagfyr i wneud penderfyniad am eu trefniadau pensiwn.
Mae grwpiau cymorth wedi eu sefydlu i helpu'r rhai sydd wedi cael cyngor camarweiniol.
'Colli 拢200,000'
Fe aeth Richard Bevan, sy'n gweithio yng ngwaith dur Tata yn Trostre ger Llanelli ers 39 mlynedd, at Celtic Wealth Management, a drosglwyddodd ei fanylion i Active Wealth UK yng nghanolbarth Lloegr.
Daeth ymchwiliad gan y 大象传媒 i'r casgliad fod y ddau gwmni rhyngddyn nhw wedi methu 芒 darparu Mr Bevan 芒'r gwaith papur sylfaenol oedd ei angen i drosglwyddo pensiwn.
Hefyd, fe gynghoron nhw Mr Bevan i fwrw 'mlaen 芒'r trosglwyddiad, er ei fod wedi cael llythyr gan Ymddiriedolwyr Pensiwn Dur Prydain, oedd yn dweud fod ei bot pensiwn yn debygol o gynyddu petai'n aros o fewn y cynllun.
Mae Mr Bevan yn amcangyfrif ei fod wedi colli bron i 拢200,000 yn sgil y cyngor hwnnw.
"Dydw i ddim yn hawdd fy nhwyllo, ond yn amlwg mae ymgynghorydd ariannol wedi fy arwain at rywbeth nad oedd yn iawn i fi, a chi'n gwybod, dydy e ddim yn lle da i fod ar hyn o bryd," meddai.
Mae Celtic Wealth Management ac active Wealth UK yn gwadu honiadau Mr Bevan.
'Perygl o gael eu camarwain'
Fodd bynnag, wedi i dystiolaeth a gasglwyd gan y 大象传媒 gael ei drosglwyddo i'r Awdurdod Rheoli Ariannol, fe ymyrrodd yr awdurdod a dydy Active Wealth UK ddim bellach yn cael rhoi cyngor ar bensiynau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Rheoli Ariannol fod gweithwyr dur yn arbennig mewn perygl o gael eu camarwain.
"Dyma gr诺p o bobl, miloedd o bobl, sydd yn gorfod gwneud penderfyniad un ffordd neu'r llall", dywedodd Megan Butler.
"Mae hynny'n arwain at nifer o gymhlethdodau... mae yna sawl penderfyniad y gallen nhw ei wneud, felly maen nhw'n fregus iawn ar hyn o bryd yn fy marn i."
Dros yr wythnosau nesaf, bydd Aelodau Seneddol yn craffu ar y modd mae cyngor wedi ei roi i weithwyr dur.
Mae yna bryder cynyddol y gallai hyn effeithio ar gannoedd o weithwyr oherwydd yr ansicrwydd yn ywmenud 芒 Chronfa Bensiwn Dur Prydain, ac y gallai gwerth miloedd o bunnoedd o arbedion fod yn y fantol.