Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwpan China: Beth all Cymru ei ddisgwyl yn y Dwyrain Pell?
- Awdur, Iolo Cheung
- Swydd, 大象传媒 Cymru Fyw
Mae'n deg dweud fod cefnogwyr p锚l-droed Cymru wedi cael tipyn o syndod yn gynharach yn yr hydref pan ddaeth s么n fod y t卯m cenedlaethol am gael gwahoddiad i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yn China.
Ond roedd gwirionedd i'r s茂on, ac yn gynharach fis Rhagfyr fe gadarnhaodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) y byddan nhw'n chwarae yng Nghwpan China ym mis Mawrth 2018.
Mewn byd delfrydol gallai Cymru fod wedi defnyddio'r gemau cyfeillgar yma i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd yn Rwsia yn yr haf.
Ond o leia mae'r trip i'r Dwyrain Pell o leiaf wedi rhoi rhywbeth i'r cefnogwyr, yn enwedig y rheiny sy'n hoff o ddilyn y t卯m i rannau gwahanol o'r byd, edrych ymlaen ato ar 么l methu a chyrraedd Cwpan y Byd.
Pam Cwpan China?
Cystadleuaeth gwadd yw Cwpan China, ac mae'n adlewyrchu statws cynyddol Cymru yn y byd p锚l-droed ers Euro 2016 ein bod ni wedi cael y gwahoddiad.
Y gwledydd eraill yn y gystadleuaeth, yn ogystal 芒 China, fydd Uruguay a'r Weriniaeth Tsiec - dau d卯m sydd hefyd yn uchel eu parch.
Bydd CBDC wedi derbyn y gwahoddiad yn rhannol am resymau ariannol, gyda disgwyl iddyn nhw gael ffi sylweddol am gymryd rhan (mae adroddiadau o Dde America wedi awgrymu y bydd Uruguay yn derbyn tua $2m, neu 拢1.5m, am fod yno).
Y fantais arall yw'r sylw y bydd Cymru'n ei gael o chwarae o flaen cynulleidfa deledu o ddegau o filiynau, yng ngwlad fwyaf poblog y byd, wrth herio China yn y rownd gynderfynol.
Nid Cwpan y Byd mohono, yn sicr, ond o ran taith genhadu allen nhw ddim fod wedi dewis lleoliad lawer gwell - peidiwch synnu petai ambell i wleidydd hefyd yn ceisio manteisio ar y cyfle.
Profiad gwahanol
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Gymru chwarae yn erbyn China, heb s么n am fynd yr holl ffordd yno ar gyfer g锚m.
Unwaith erioed y mae'r t卯m p锚l-droed cenedlaethol wedi teithio'n bellach ar gyfer g锚m - Cwpan Kirin yn Japan yn 1992.
Y tro diwethaf iddyn nhw gymryd rhan mewn twrnamaint cyfeillgar oedd Cwpan y Cenhedloedd yn 2011, pan chwaraeon nhw yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Unwaith yn unig y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal, gyda diffyg diddordeb yn ffactor - ond mae'n oes wahanol bellach, ac mae'n bosib iawn y bydd gan Gymru fwy o gefnogwyr allan yn China nag oedd ganddyn nhw yn Nulyn chwe blynedd yn 么l!
Mae'r daith hefyd yn cynnal traddodiad diweddar CBDC o drefnu gemau cyfeillgar oddi cartref mewn lleoliadau deniadol a difyr i'r cefnogwyr - fel Paris, Stockholm, Amsterdam ac Efrog Newydd - yn y blynyddoedd diwethaf.
Cyfnod newydd
O ran materion ar y cae, y peth amlwg i'w nodi yw y bydd hi'n gyfle i gael cip cyntaf ar reolwr newydd Cymru.
Mae CBDC yn awyddus i benodi olynydd Chris Coleman erbyn mis Ionawr, mewn da bryd ar gyfer Cwpan China ac yna Cynghrair y Cenhedloedd yn hydref 2018.
Y gobaith yw y bydd yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc y garfan, gan barhau 芒'r broses a ddechreuodd Coleman yn ei gemau cyfeillgar olaf.
Ond mae'n bosib wrth gwrs y bydd mwy o bwyslais ar brofiad - ac ennill - gyda'r rheolwr newydd yn awyddus i blesio'r cefnogwyr yn sydyn a dangos mai fo oedd y dewis iawn.
Bydd llawer yn dibynnu ar argaeledd Gareth Bale, gyda'i glwb yn annhebygol o fod yn awyddus gadael iddo deithio hanner ffordd ar draws y byd ar gyfer dwy g锚m gyfeillgar i bob pwrpas.
Ond mae atyniad seren Real Madrid yn rhan o'r rheswm pam fod Cymru wedi cael eu gwahodd - a byddai'n sicr yn helpu'r ymdrechion i hybu proffil ein gwlad tra'n bod ni yno.
'Y Ddinas Werdd'
Bydd y gemau i gyd yn cael eu chwarae yn Nanning, mewn stadiwm sydd yn dal tua 60,000 o gefnogwyr.
Mae'r ddinas yn ne-orllewin y wlad 芒 phoblogaeth o bron i saith miliwn - dros ddwywaith y nifer sy'n byw yng Nghymru.
Ond os 'dych chi'n meddwl bod hynny'n swnio fel lot, mae 'na dros ddau ddwsin o ddinasoedd eraill yn China sydd yn fwy na hi.
Dyw hi ddim yn lleoliad amlwg i ddewis cynnal y gystadleuaeth, yn enwedig o ystyried nad oes yr un t卯m p锚l-droed o'r ddinas yn agos at brif gynghreiriau China.
Dyn busnes, Wang Jianlin, sydd yn gyfrifol am leoli'r gystadleuaeth yno, ac mae ei gwmni Dalian Wanda eisoes yn weithredol iawn yn y byd p锚l-droed - maen nhw'n berchen ar glwb Atletico Madrid, ac mae'n rhan o ymdrechion China i gynyddu ei phroffil yn rhyngwladol.
O ran y ddinas ei hun, mae Nanning yn cael ei hadnabod fel 'Y Ddinas Werdd' oherwydd ei pharciau niferus, gyda'r tymheredd cyfartalog ym mis Mawrth tua 20C - swnio'n ddigon braf felly.
Ond peidiwch 芒 disgwyl dod ar draws lawer o siaradwyr Saesneg - mae'n syniad dysgu ambell air a dywediad o Fandarin cyn mynd.
Bydd y bwyd hefyd ychydig yn wahanol i'r hynny 'dych chi wedi arfer cael yn eich tecaw锚 lleol - digon o bethau Cantoneaidd eu naws, ond o bosib llai o sweet and sour na fyddech chi'n ei ddisgwyl!
Lle arall i fynd?
Bydd mynd i Nanning yn cymryd tipyn mwy o amser ac yn costio llawer mwy na thripiau oddi cartref arferol Cymru, felly mae'n naturiol y bydd unrhyw un sy'n mynd eisiau gwneud y mwyaf o'u hamser.
Ond mae'r ddinas yn bell o gyrchfannau mwyaf poblogaidd y wlad i dwristiaid, fel Beijing a Shanghai, ac atyniadau poblogaidd fel y Wal Fawr a'r Fyddin Terracotta - felly os am weld y rheiny bydd angen hedfan ymhellach, neu stopio yno ar y ffordd.
Os 'dych chi'n chwilio am rywle agosach i fynd am ychydig ddyddiau fewn, mae dinasoedd fel Hong Kong a Macau, Guilin, ynys Hainan, a hyd yn oed Hanoi yn Fietnam, i gyd o fewn cyrraedd ar y tr锚n neu wrth hedfan.
Beth bynnag fydd llwybr eich taith, mae un peth yn sicr - dyw cefnogwyr Cymru ddim yn mynd i gael trip fel hwn am sbel eto!