Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dinas Diwylliant: Cais Abertawe yn methu
Ni fydd Abertawe'n Ddinas Diwylliant 2021 ar 么l i Coventry ddod i'r brig.
Fe wnaeth Gweinidog Celfyddydau a Diwylliant Llywodraeth y DU, John Glen gyhoeddi'r newyddion yn fyw ar raglen The One Show.
Ffefryn y bwci oedd Paisley yn Yr Alban, ond daeth Coventry i'r brig ar draul yr Albanwyr yn ogystal 芒g Abertawe, Sunderland a Stoke-on-Trent.
Mae Abertawe wedi bod ar restr fer y gystadleuaeth o'r blaen, gyda rhaglen oedd yn pwysleisio cysylltiadau'r ddinas gyda Dylan Thomas.
Ond ar 么l colli i Hull yn 2013, roedd yna lai o sylw i'r bardd yn y cais diweddaraf.
Roedd rhaglen waith trefnwyr cais Abertawe yn cynnwys cynhyrchiad gan Michael Sheen, sioe gerdd gan gyfarwyddwr ffilm Twin Town, Kevin Allen, a pherfformiad o g芒n fwyaf enwog Bonnie Tyler, Total Eclipse of the Heart, ar draeth y ddinas.
'Siomedig'
Dywedodd Tracey McNulty, cydlynydd cais Abertawe y byddai pobl yn naturiol yn siomedig, ond fod eu cais wedi dangos fod yna gefnogaeth, ynni a brwdfrydedd ar gyfer cynllun diwylliant yn y ddinas.
"Fe wnaeth pobl yn Abertawe a thu hwnt gymryd rhan mewn ymgyrch ffantastig ac rydym wedi dangos i eraill, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol pa mor bell rydym wedi cyrraedd fel dinas.
"Ac yr un mor bwysig, par mor bell yr ydym yn bwriadu mynd."
Yn 么l Jane Simpson, un arall oedd yn rhan o gais Abertawe 2021, roedd y ddinas wedi colli'r gystadleuaeth ond ddim eu huchelgais.
"Fe fydd sawl rhan o'r cynnig dal yn digwydd, gan gynnwys arena dan do digidol fydd yn cael ei agor yn 2020 ar gyfer cynnal sioeau, cyngherddau, arddangosfeydd, cynadleddau a gweithgareddau eraill."
Cafodd cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU ei chreu ar 么l llwyddiant Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008.
Fe welodd y ddinas fuddsoddiad o 拢800m, gafodd ei ddefnyddio i adfywio nifer o strydoedd, adeiladau a gorsafoedd rheilffordd.
Yn ogystal daeth 9.7m yn rhagor o ymwelwyr yn ystod 2008 - cynnydd o 35%.