Sam Warburton i fethu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Sam Warburton wedi ennill 74 cap dros Gymru

Ni fydd capten y Llewod Sam Warburton ar gael i Gymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2018 ar 么l iddo gael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y bydd y blaenasgellwr allan o'r gamp am bedwar i chwe mis.

Mae'r Gleision yn debygol o fod hebddo am weddill y tymor.

Roedd y llawdriniaeth ar gyfer hen gyflwr, yn hytrach nag anaf newydd.

"Ar 么l i'r Undeb a'r Gleision ymgynghori 芒'i gilydd gwnaed y penderfyniad mai llawdriniaeth oedd yr opsiwn gorau," meddai llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru.

Dyw Warburton heb chwarae ers iddo wynebu'r Crysau Duon yn y trydydd prawf yn Auckland bum mis yn 么l.