大象传媒

Yr iselder sy'n codi ei ben bob gaeaf

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n well gan rai ohonom ni dywydd cynnes yr haf nac oerfel y gaeaf. Ond i tua 30% o boblogaeth y DU mae'r newid tywydd yn gallu dylanwadu ar emosiynau a iechyd meddwl hefyd.

Mae 8% o'r rhain yn dioddef o Anhwylder Affeithiol Tymhorol (Seasonal Affective Disorder - SAD), sef math o iselder sydd ond yn taro dioddefwyr yn ystod misoedd y gaeaf, ond sydd yn gallu cael effaith negyddol iawn ar fywyd bob dydd.

Un sydd yn dioddef bob gaeaf ers blynyddoedd yw John Skym o Landdarog yn Sir Gaefyrddin:

Ffynhonnell y llun, John Skym

Pan mae'r dail yn dod bant o'r coed, fi'n teimlo bo' fi'n mynd yn isel, a fi'n gweud wrth Angela y wraig 'O 'co ni off 'to!'.

Pan mae hi'n ddiflas tu fas, fi'n teimlo'n ddiflas yn fy hunan. A phan mae'n dechrau tywyllu yn y gaeaf, tua 3.30 rhai dyddiau, fi jest mo'yn mynd i gysgu, fi mo'yn mynd i hybernatio! A fi ffili gwneud dim byd ambyti'r peth. Heddi, ma' hi'n 'itha tywyll gyda ni gan fod yna niwl, a fi'n teimlo'n ddiflas ofnadwy, a gweud y gwir.

Er mod i wedi ymddeol, mae digon i'w wneud rownd y t欧, a fel arfer fi hefyd yn mynd mas i wneud pethe, ond ddoe o'n i jest ddim yn teimlo fel mod i mo'yn gwneud dim byd. Yn yr haf, byddwn i'n codi tua 7.30, ond ddoe, godes i tua 9.15 - ond 'do'n i ddim mo'yn codi, o'n i jest mo'yn cysgu.

Wedyn, os 'na i bethe yn ystod y dydd yn ystod y gaeaf, am tua 3.30 bydda i'n mynd yn 么l i'r t欧 a jest ishte lawr a watshio'r teledu. Falle ddylwn i ddim gwneud hynny, ond fi jest yn teimlo'n ddiflas.

Blynyddoedd o ddiodde'

Mae wedi effeithio arna i ers blynydde. Hyd yn oed pan o'n i'n gweithio. Roedd mynd i'r gwaith pan oedd yr haul mas yn hollol wahanol i fynd pan roedd hi'n ddiflas. Mae Angela'r wraig yn gweud mai jest fi sy'n dychmygu hyn, ond fi'n ei deimlo fe, bendant.

Dwi'n meddwl fod llawer o bobl yn diodde' ohono fe. Mae rhai pobl yn s么n am y lampau a'r goleuadau hyn sydd i fod i helpu. Dwi ddim wedi eu trio nhw - 'sai'n meddwl fod yna lawer allwch chi wneud ambyti fe, 芒 dweud y gwir. Fi'n trial gwthio'n hun mas o'r peth.

Pan ni'n gweld yr haul ar wylie, fi'n teimlo'n berson gwahanol. Ddaethon ni'n 么l o wyliau ychydig wythnosau yn 么l, ac roedden ni wedi cael dipyn o haul, ac o'n i'n teimlo llawer gwell. Ond chi ffili aros fan'na drwy'r amser - rhaid i chi ddod gartref a wynebu bywyd!

Ar 么l y Nadolig, pan mae pethe'n dechrau goleuo gan bwyll, fydda i'n dechre teimlo tamed bach yn well.

Ond dyw hi ddim yn broblem rhy ddifrifol i fi - 'sa pethe'n gallu bod llawer gwaeth. Fi ddim yn mynd yn rhy ddiflas, a dim ond ar brydie. Falle heddi daw'r haul mas a phan fi'n gallu gweld yr haul, fi'n teimlo'n well!