'Gobeithio y bydd Yr Egin yn 60% llawn erbyn agor'
- Cyhoeddwyd
Mae un o uwch-swyddogion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd hyd at 60% o adeilad Yr Egin wedi ei lenwi pan fydd drysau'r ganolfan newydd yn agor ym mis Medi.
Erbyn hyn mae ffenestri yn cael eu gosod yn yr adeilad ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, ac fe fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn yr haf.
Mae 拢6m o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar godi adeilad fydd yn cynnwys pencadlys newydd S4C, ond mae'r cynllun .
Mae S4C yn bwriadu adleoli rhwng 50 a 55 o swyddi i'r ganolfan newydd.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd Yr Egin yn creu rhyw 100 o swyddi newydd yn y diwydianau creadigol.
Doedd y brifysgol ddim yn barod i gadarnhau faint o denantiaid sydd wedi ymrwymo i symud i'r Egin, ond mae yna addewid am gyhoeddiad "yn y flwyddyn newydd".
Yn 么l y Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol, Gwilym Dyfri Jones, dyw'r brifysgol "ddim mewn sefyllfa i rannu gwybodaeth am ei bod yn parhau mewn trafodaethau manwl a chyfreithiol" gyda nifer o gwmn茂au a sefydliadau.
Yn 么l Mr Jones mae'r datblygiad wedi cyfrannu rhyw 拢4m tuag at economi Cymru, ac fe fydd mwy na 20 o gwmn茂au adeiladu wedi bod yn gweithio ar y safle yng Nghaerfyrddin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2017