Mwy o honiadau fod Carwyn Jones wedi camarwain ACau
- Cyhoeddwyd
Mae honiadau newydd wedi cael eu gwneud fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi camarwain y Cynulliad.
Mae'r cyhuddiadau diweddaraf yn ymwneud 芒 phryderon gafodd eu codi wrth Mr Jones am ymddygiad un o'i ymgynghorwyr arbennig.
Mae'r cyn-weinidog, Leighton Andrews wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn honni fod yr atebion mae wedi eu rhoi i ACau dros y mis diwethaf wedi bod yn gamarweiniol "ar sawl achlysur".
Gofynnodd Mr Andrews am "eich holl atebion perthnasol ar y mater" i gael eu cyfeirio at yr ymgynghorydd annibynnol sydd yn edrych i beth sydd wedi cael ei ddweud am honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014.
'Dim cwynion'
Ar o leia' dau achlysur yn ystod yr wythnosau diwethaf mae Carwyn Jones wedi gwadu ei fod wedi derbyn unrhyw gwynion am ymddygiad ymgynghorwyr arbennig.
Ar 22 Tachwedd eleni fe ofynnodd yr AC Ceidwadol Darren Millar wrtho: "Wnaeth y Prif Weinidog dderbyn unrhyw adroddiadau, neu oedd o'n ymwybodol o unrhyw honiadau o ymgynghorwyr arbennig yn torri'r cod ymddygiad yn y chwe mis hyd at 31 Rhagfyr 2014, ac os felly, pryd, am bwy, a pha gamau, os unrhyw beth, gafodd eu cymryd?"
Mewn ymateb ysgrifenedig ar 4 Rhagfyr dywedodd Mr Jones: "Ni chafodd honiadau o'r fath eu gwneud i mi ac ni chafwyd unrhyw adroddiad."
Y diwrnod canlynol yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog fe ofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Brif Weinidog, a wnaeth Leighton Andrew wneud cwyn o unrhyw fath yn 2014 am ymddygiad aelodau o staff o fewn Llywodraeth Cymru neu eich swyddfa chi?"
Cafwyd ateb un gair gan Mr Jones: "Na."
Yn ddiweddarach fe wnaeth y Prif Weinidog ymateb i gwestiwn bellach gan Mr Davies ar y mater.
"Dwi wedi dweud na wnaeth Leighton Andrews honni unrhyw beth i mi ynghylch bwlio," meddai.
"Oes 'na faterion wnaeth godi? Oedd, byddai anghydfod bob hyn a hyn rhwng pobl - anghytuno ynghylch teitlau Mesurau, er enghraifft. Pan mae gennych chi dim talentog o bobl, weithiau fe fydd 'na rywfaint o wrthdaro."
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes ganddyn nhw sylw i'w wneud ar y mater.