Prosiect llosgydd yn 'cymryd mantais' o weithwyr tramor
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun ynni yng ngogledd Cymru, sy'n cael ei gefnogi gan arian cyhoeddus, wedi ei gyhuddo o "gymryd mantais" o weithwyr tramor.
Mae dau o undebau llafur mwyaf y DU hefyd yn honni nad yw datblygiad llosgydd Parc Adfer yng Nglannau Dyfrdwy yn cyflogi pobl leol.
Mae undebau GMB ac Unite eisiau i'r cynllun fabwysiadu canllawiau NAECI - cytundeb o fewn y diwydiant adeiladu peirianyddol - gan ddweud y byddai'n golygu cyflogau uwch a thermau ac amodau gwell.
Ond mae prif gontractwyr y prosiect, CNIM, yn wfftio honiadau'r undebau, gan ddweud nad yw'n orfodol iddyn nhw ddefnyddio canllawiau NAECI.
Pan fydd yn weithredol yn 2019, bydd Parc Adfer yn creu ynni o wastraff, gan gynhyrchu trydan adnewyddadwy i fwy na 30,000 o gartrefi.
Mae'r orfodol i unrhyw bwerdy sy'n cynhyrchu o leiaf 50 megawat (MW) o drydan i ddilyn canllawiau NAECI, ond dim ond 19 MW fydd capasiti Parc Adfer.
Ond mae'r undebau'n dweud bod y cynllun yn "methu cyfle", yn enwedig gan ei fod yn cael ei ariannu gan bump o gynghorau gogledd Cymru - Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Ynys M么n.
Maen nhw'n credu y byddai'r datblygiad yn creu mwy o swyddi ac yn rhoi hwb i fusnesau lleol pe bai'r cynghorau wedi mynnu ei fod yn mabwysiadu canllawiau NAECI.
Ond mae'r GMB yn derbyn y byddai dilyn y canllawiau yma wedi cynyddu cost y prosiect o 60%.
Maen nhw'n awgrymu y gallai cyflogau gweithwyr fod 63.5% yn is nac y bydden nhw o dan ganllawiau NAECI.
'Cydymffurfio'n llwyr'
Mae CNIM yn dweud eu bod "wedi gwneud yn amlwg ein bod yn cydymffurfio'n llwyr gyda chyfraith y DU".
"Yr awdurdodau lleol sy'n ariannu'r prosiect yma, ac mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus," meddai'r cwmni mewn datganiad.
"Dyw canllawiau NAECI ddim yn orfodol ar gyfer prosiectau awdurdodau lleol, ac o ganlyniad, dyw'r cynllun ddim wedi'i ddynodi fel un ac ni fyddwn yn eu mabwysiadu yn y dyfodol."
Mae'r undebau hefyd yn bryderus am iechyd a diogelwch ar y safle.
Maen nhw'n credu bod gweithiwyr sydd ddim 芒'r sgiliau sydd eu hangen i wneud y gwaith yn ddiogel yn cael eu cyflogi ar leiafswm cyflog.
Pe bai'r cynllun yn dilyn canllawiau NAECI byddai gan yr undebau'r hawl i fonitro iechyd a diogelwch a lefelau t芒l ar y safle.