Nod o ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Fe fydd digartrefedd ymhlith yr ifanc yn rhywbeth fydd yn perthyn i'r gorffennol, yn 么l prif weinidog Cymru wrth iddo gyhoeddi buddsoddiad gwerth 拢10m.

Y nod, meddai, Carwyn Jones, yw ei ddileu ymhen deg mlynedd.

Cyhoeddodd y bydd yr arian ychwanegol yn helpu 7,000 o bobl dan 25 oed sy'n ceisio cymorth bob blwyddyn.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio gyda chynghorau, cymdeithasau tai, asiantaethau ac elusennau wrth roi cymorth i bobl ifanc ddod o hyd i lety sefydlog.

Y llynedd fe wnaeth gweinidogion ym Mae Caerdydd roi'r gorau i gynllun i roi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, gan ddweud nad oedd ganddyn nhw'r pwerau angenrheidiol.

Fe fydd y cyllid ychwanegol ar gyfer y digartref gafodd ei gyhoeddi ddydd Sul ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20 ac yn ychwanegol i'r 拢20m gafodd ei gyhoeddi yng nghyllideb drafft Llywodraeth Cymru ym mis Hydref.

Ar ymweliad ag elusen Llamau yng Nghaerdydd dywedodd Mr Jones wrth raglen Sunday Politics Wales fod rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith yr ifanc yn un o'i flaenoriaethau personol.

Disgrifiad o'r llun, Y prif weinidog yn trafod gyda phobl ifanc ddigartref yng Nghaerdydd

"Yn aml mae rhywun yn clywed mai ein plant yw'r dyfodol," meddai.

"Ni all unrhyw gymdeithas waraidd ddioddef sefyllfa lle mae pobl ifanc yn ddigartref a bod dim yn cael ei wneud' i'w' helpu.

"Mae'r elusen yma yn gwneud gwaith ffantastig ond rwyf eisiau gwneud yn si诺r fod arian ar gael a chefnogaeth ar gael oddi wrth Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith yr ifanc yng Nghymru.

"Mae'n rhaid mai'r nod yw ei haneru mewn pum mlynedd, ac o fewn 10 mlynedd i gael gwared ag e."

Ychwanegodd fod yn rhaid i Gymru arwain y ffordd.

Disgrifiad o'r llun, Frances Beecher: Diddordeb y prif weinidog o fudd eithriadol

Dywedodd Frances Beecher prif weithredwr Llamau fod gweld y prif weinidog yn cymryd diddordeb personol o fudd eithriadol.

"Mae arweinyddiaeth yn gallu newid pethau.

"Mae'r arweinyddiaeth yn dweud 'dyma flaenoriaeth yng Nghymru.'

"Yn rhy hir mae pobl ifanc wedi cael eu hesgeuluso, yn rhy hir mae yna ddiffyg cydweithredu, ac nid ydym wedi ystyried pobl ifanc bregus yn eu cyfanrwydd.

"Nid ydym wedi edrych ar yr anfanteision maent yn wynebu, a sut y gallwn newid hynny."

Fe fydd Sunday Politics Wales yn cael ei ddarlledu ar 大象传媒 One Wales ar Ddydd Sul 17 Rhagfyr am 11:00