Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cwmn茂au i atal rhoi cyngor i weithwyr dur Port Talbot
Mae chwech o gwmn茂au ariannol wedi cytuno i roi'r gorau i roi cyngor pensiwn i weithwyr dur Port Talbot.
Roedd yr Awdurdod Rheoli Ariannol wedi bod yn ymchwilio i 17 o gwmn茂au ar 么l i weithwyr Tata ddweud eu bod wedi derbyn cyngor gwael wrth geisio trosglwyddo eu harian o Gynllun Pensiwn Dur Prydain.
Mae gan tua 130,000 o aelodau tan 22 Rhagfyr i wneud penderfyniad am eu trefniadau pensiwn.
Mae nifer o weithwyr yn dweud iddynt dderbyn cyngor camarweiniol gan gwmn茂au ariannol wrth geisio gwneud penderfyniad.
Fe wnaeth rhaglen Money Box ar 大象传媒 Radio 4 ddatgelu fod chwech o'r 17 o gwmn茂au dan ymchwiliad nawr wedi cytuno i roi'r gorau i roi cyngor.
Dywed y rhaglen fod Awdurdod Rheoli Ariannol yn parhau i ymchwilio i 11 o gwmn茂au eraill sy'n parhau i weithredu yn Port Talbot.
Mae grwpiau cymorth wedi eu sefydlu i helpu'r rhai sydd wedi cael cyngor camarweiniol.
Credir bod tua 30,000 o weithwyr yn parhau heb wneud penderfynaid yngl欧n 芒 beth i wneud gyda'u pensiynau.
Pe na bai nhw'n yn dod i benderfyniad, yna bydd eu pensiynau yn cael eu rhoi dan drefniadau gwahanol i'r rhai presennol - trefniadau a allai fod yn llai deniadol.