Dolig anodd arall i deulu o'r canolbarth
- Cyhoeddwyd
Dyma'r ail Nadolig i Sharon Marie Jones dreulio heb ei mab, Ned, a gafodd ei ladd mewn damwain car y llynedd.
Mae'n ceisio ymdopi drwy rannu llun a hanesyn bob dydd ar Twitter, yn enw Ned. Dyma hi i rannu hanes #NedAdvent gyda Cymru Fyw.
"Does dim modd i mi roi anrheg o dan y goeden Nadolig iddo, felly mae hyn yn teimlo fel fy mod i'n gwneud rhywbeth arbennig iddo, a'i gadw'n fyw yn y cof.
"Dyna'r unig beth fedra i wneud iddo nawr," meddai Sharon Jones.
Doedd dim cynllun i greu #NedAdvent, ond wrth eistedd wrth y cyfrifiadur un bore, roedd meddwl am Ned a'r boen o'i golli'n gwasgu'n drwm ar ei stumog, meddai, ac aeth ati i fwrw golwg dros luniau o'i mab.
"Roedd e'n anodd dros ben, gyda'r holl atgofion yn fy mwrw, un ergyd ar 么l y llall. Ond dyna sut ddaeth y syniad," meddai Sharon.
"Roedd creu #NedAdvent yn rhoi pwrpas i edrych drwy'r lluniau, a rhannu fy machgen bach arbennig gyda phawb, gan ddangos lluniau personol a oedd yn adlewyrchu taith fer ei fywyd."
Dathlu bywyd Ned yw'r nod, meddai, er ei fod ar brydiau yn brofiad chwerw-felys.
Mae #NedAdvent yn dangos darlun o fywyd byr Ned, o'r diwrnod y cafodd ei eni hyd at ei farwolaeth.
"Diwrnod ei eni, brwydro meningitis yn chwe wythnos oed, gwyliau teuluol, diwrnod cyntaf yn yr ysgol," meddai.
"Y camau pwysig yn ei fywyd - rhai y mae pobl eraill yn gallu uniaethu 芒 nhw."
Mae ambell i stori fach yn eu plith, yn cynnwys y prynhawn pan fu'r ddau ohonyn nhw yn casglu mwyar duon, ag yntau'n mwynhau eu bwyta wedyn.
"Yr atgof cryfaf sydd gen i am Ned yw pa mor hapus oedd e, o'r cychwyn cyntaf un. Roedd ganddo fe w锚n ddireidus ar ei wyneb drwy'r amser, ac mae'r lluniau'n dangos hyn, yn dangos ei gymeriad i'r dim," meddai.
"Does dim dianc rhag galar"
Mae hi'n teimlo cysur o gael rhannu'r atgofion ar Twitter, meddai, lle mae'n teimlo ei bod hi'n rhan o gymuned glos.
"Mae hefyd yn gyfle i estyn allan at eraill sy'n ddieithr, sydd efallai'n gaeth yng ngafael creulon galar ac yn chwilio am rywbeth neu ryw eiriau all gynnig cysur iddyn nhw," meddai.
"Does dim dianc rhag galar, ac mae yna adegau o'r flwyddyn lle mae'r boen yn anoddach fyth, gyda'r Nadolig yn un ohonyn nhw.
"Roedd Ned wrth ei fodd gyda'r Nadolig, ac ro'n i'n canu c芒n 'Rwdolff' iddo bob nos gydol y flwyddyn, ag yntau'n cysgu gyda Rwdolff a Santa'n dynn dan ei gesail.
"Mae gen i ddau o feibion bach eraill sy'n llawn cyffro am y Nadolig ac mae gorfod dangos cyffro a hapusrwydd er eu lles nhw yn frwydr anferthol."
Rhaid iddi gwffio'n ddyddiol i godi o'r gwely a rhoi un droed o flaen y llall, pan mae'n teimlo mai cuddio o dan y dwfe a chau'r byd allan fyddai hawsaf, meddai.
"Ond does dim dewis. Rhaid dal ati, a gwneud y pethau bach fel prynu ac addurno'r goeden," meddai.
Nadolig arall heb Ned
Yn ddiweddar, fe wnaeth hi fwynhau gweld Tomi a Cai, ei meibion, yn cymryd rhan yn eu cyngerdd Nadolig, ond roedd yna gysgod.
"Ro'n i'n dychmygu Ned ar y llwyfan ac yn teimlo'r gwacter, a'r dagrau'n llifo.
"Dw i methu ysgrifennu cardiau Nadolig chwaith, gan fod yna enw ar goll ynddyn nhw. Mae siopa am anrhegion yn tu hwnt o boenus, ac mae bod yng nghanol cyffro'r 诺yl yn fy rhwygo'n ddarnau.
"Pam nad yw Ned yma? Pam na gafodd o'r cyfle i fwynhau mwy na phedwar Nadolig? Beth byddai Ned wedi gofyn amdanynt yn ei lythyr at Si么n Corn eleni? Pam? Pam? Pam? Cwestiynau yn mynd rownd a rownd yn fy mhen drwy'r dydd, bob dydd yn ddi-ffael."
Roedd y llynedd yn anodd iawn - y Nadolig cyntaf heb Ned, a hithau ar feddyginiaeth gref, a'r cyfan wedi teimlo fel breuddwyd iddi.
"Canolbwyntio ar anadlu fydda i eleni, a cheisio cadw'n bositif er lles Tomi a Cai er gwaetha'r sedd wag wrth y bwrdd cinio, a'r gwagle lle byddai anrhegion Ned wedi eu pentyrru.
"Byddaf yn treulio hanner awr fach yn eistedd wrth ei fedd, ac yn gadael i'r tristwch lifo allan, fel y gwnes i llynedd, gyda dagrau hallt yn llifo i lawr fy ngruddiau.
"Dweud yr un peth dw i wedi bod yn dweud bob dydd ers i Ned farw. Sori. Sori am ei adael lawr fel mam.
"Sori nad oeddwn yn fam ddigon da. Sori nad oeddwn yn gallu ei gadw'n ddiogel. A dweud wrtho fy mod yn ei garu yn fwy na'r byd i gyd, fel oeddwn yn dweud wrtho bob amser gwely.
"Mae'n si诺r y gwnawn rannu ambell i stori amdano dros ginio. Mae bron yn amhosib i beidio. Ond gwenu trist fydd eto eleni wrth gofio am a cholli Ned bach ni."
Stori: Llinos Dafydd