Rhybudd Heddlu Dyfed Powys am alwadau twyllwyr treth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus yn dilyn "nifer uchel o adroddiadau" o alwadau ff么n yn esgus bod o'r Swyddfa Dreth.
Dywedodd y llu fod trigolion yn Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Aberhonddu wedi cael galwadau gan dwyllwyr dros y 24 awr ddiwethaf, yn ceisio cael manylion ariannol gan bobl.
Yn 么l yr heddlu roedd y twyllwyr galw pobl i ddweud fod ganddyn nhw arian trethi yn ddyledus, ac yn bygwth mynd 芒 nhw i'r llys neu alw'r heddlu os nad oedden nhw'n talu.
Maen nhw wedi rhybuddio pobl i roi'r ff么n i lawr os ydyn nhw'n amau unrhyw beth, ac i beidio byth a rhoi manylion banc neu fanylion personol i rywun dros y ff么n.
"Fyddai HMRC fyth yn targedu pobl yn y ffordd yma, ac yn bendant byth yn gofyn am arian neu fanylion banc dros y ff么n," meddai Paul Callard o'r T卯m Troseddau Ariannol.
Ychwanegodd: "Cofiwch, mae'n iawn i beidio siarad 芒 phobl sy'n ffonio'n ddienw neu'n ddirybudd - jyst rhowch y ff么n i lawr. Os 'dych chi'n bryderus ffoniwch yr heddlu ar 101."