Cwest: Marwolaeth tractor Pen Ll欧n 'yn ddamwain'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed bod dynes ifanc wedi marw ym Mhen Ll欧n pan wnaeth tractor yr oedd hi arno droi drosodd arni.
Bu farw Chloe Farrell, 22 o Fae Colwyn, yn y digwyddiad ym mharc gwyliau'r Warren yn Abersoch ym mis Mai eleni.
Fe wnaeth y crwner gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon bod Ms Farrell a'i chariad wedi bod allan ar y m么r ar jetski cyn y ddamwain.
Roedd hi yna wedi defnyddio'r tractor i dynnu'r jetski o'r d诺r, ac ar fin ei barcio yn y man arferol.
G锚r anghywir
Ond clywodd y gwrandawiad ei fod yn debygol bod Ms Farrell wedi gyrru am ymlaen yn hytrach nac am yn 么l mewn camgymeriad.
O ganlyniad i hynny fe wnaeth y tractor daro cwch oedd wedi'i barcio gerllaw a throi drosodd arni.
"Mae'n ymddangos bod Chloe Farrell wedi penderfynu troi'r tractor i'w gadw yn y ffordd yr oedd yn cael ei barcio fel arfer," meddai crwner gogledd-orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones.
"Aeth rhywbeth o'i le yn ystod y symudiad yma ac achosi ei marwolaeth.
"Mae'n debyg ei bod eisiau dewis g锚r am yn 么l, ond cafodd y tractor ei roi yn yr ail g锚r.
"Dyma, fwy na thebyg, ddigwyddodd. Felly yn hytrach na mynd am yn 么l aeth y tractor ymlaen."
Dim achos i'w ateb
Clywodd y gwrandawiad bod y tractor yn 47 mlwydd oed, ond ei fod yn cael ei gadw mewn cyflwr da.
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi ymchwilio i'r digwyddiad, ond eu bod wedi dod i'r canlyniad nad oedd gan y parc gwyliau achos i'w ateb.
Ond dywedodd y parc eu bod wedi cyflwyno newidiadau i reolaeth traffig ar y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2017