Ieuan Wyn Jones i adael swydd Parc Gwyddoniaeth Menai

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones wedi dweud y bydd yn gadael ei r么l fel cyfarwyddwr gweithredol Parc Gwyddoniaeth Menai.

Cafodd Mr Jones ei benodi i'r swydd yn 2013, gan adael ei r么l fel Aelod Cynulliad Ynys M么n ar y pryd.

Mae disgwyl iddo barhau i fod yn gyfarwyddwr ar M-SParc, y cwmni sydd yn gyfrifol am y datblygiad yn Y Gaerwen, yn ogystal 芒 gweithio ar brosiectau yno pan mae'n camu o'r neilltu yng ngwanwyn 2018.

"Fe'i gwnes hi'n glir ar y dechrau y byddwn yn arwain y prosiect trwy ei gyfnod datblygu, ac mae hynny nawr bron wedi'i gyflawni," meddai Mr Jones.

Trosglwyddo'r awenau

Cafodd y Parc Gwyddoniaeth ei sefydlu pedair blynedd yn 么l yn dilyn buddsoddiad o 拢10m gan Lywodraeth Cymru, ac yn ddiweddar fe wnaethon nhw gyhoeddi'r busnesau cyntaf fydd yn ymuno 芒'r fenter y 2018.

"Rwy'n hynod falch ein bod wedi curo'r targed a osodwyd ar gyfer tenantiaid cynnar, gyda thraean o'r adeilad yn cael ei feddiannu o'r diwrnod cyntaf," meddai Mr Jones.

Ychwanegodd: "O ystyried ein bod bellach yn symud i ochr weithredol pethau, mae'n iawn fy mod yn trosglwyddo'r awenau i rywun i gymryd y prosiect ymlaen at ei gyfnod nesaf."

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ieuan Wyn Jones sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Ynys M么n yn yr etholiad cyffredinol, gan ddod yn drydydd.