Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfeirio ymchwiliad Neil McEvoy i'r Comisiynydd Safonau
Mae 大象传媒 Cymru ar ddeall fod Plaid Cymru wedi trosglwyddo cwynion yn erbyn yr AC Neil McEvoy i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad.
Mae rhai o'r bobl oedd wedi cwyno wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod yn anhapus nad oedd y blaid wedi gofyn iddynt cyn gwneud y penderfyniad.
Maent hefyd yn anhapus fod manylion y cwynion wedi'u trosglwyddo i Mr McEvoy cyn lansio ymchwiliad ffurfiol.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Ni allwn wneud sylwadau ar faterion disgyblu sydd heb eu cwblhau."
Cod ymddygiad
Doedd Mr McEvoy ddim ar gael i wneud sylw, ond dywedodd yn y gorffennol y byddai'n amddiffyn ei hun yn erbyn y cwynion.
Cafodd Aelod Cynulliad Canol De Cymru ei wahardd dros dro o gr诺p Plaid yn y Cynulliad yn gynharach eleni dros honiadau ei fod wedi torri rheolau'r blaid.
Ym mis Mawrth, lansiwyd ymchwiliad mewnol ar 么l i gyhuddiadau yn ei erbyn gael eu gwneud ar wefannau cymdeithasol.
Chwe mis yn ddiweddarach fe wnaeth panel disgyblu'r blaid gwrdd i drafod a oedd unrhyw sail i ymchwilio ymhellach i dri chwyn a gyflwynwyd.
Mae rhai o'r rheiny oedd wedi cwyno wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod yn teimlo rhwystredigaeth am hyd y broses ac am ddiffyg tryloywder.
Maen nhw hefyd yn ddig bod Plaid wedi trosglwyddo eu cwynion i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad heb ofyn am eu caniat芒d.
Yn 么l y canllawiau newydd a gyhoeddwyd fis diwethaf gyda chytundeb holl arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad: "Byddwn yn cyfeirio unrhyw honiadau o dorri'r Cod yn y dyfodol i'r Comisiynydd. Ym mhob achos, byddwn yn gwneud hyn gyda chaniat芒d yr achwynydd."
Bydd Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, y cyn-farnwr Uchel Lys Syr Roderick Evans yn ymchwilio i'r cwynion. Mae'r canllawiau newydd yn dweud y "bydd y Comisiynydd yn ymchwilio i bob cwyn yn erbyn Aelod o'r Cynulliad".
'Ymgyrch yn fy erbyn'
Dywedodd Comisiwn y Cynulliad na fyddan nhw'n cadarnhau a oedden wedi derbyn unrhyw gwynion yn erbyn Aelod ai peidio.
Mae comisiynydd safonau Senedd y DU yn cyhoeddi rhestr o enwau'r ASau sy'n cael eu hymchwilio.
Wrth gynnal Ymchwiliad Rhagarweiniol, mae canllawiau Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn dweud: "Efallai y bydd y Comisiynydd yn cysylltu 芒'r achwynydd i gael rhagor o fanylion ac i ganfod a yw ef neu hi yn fodlon rhyddhau ei enw neu ei henw i'r Aelod y cwynir amdano a'r Pwyllgor."
Mae un o'r achwynwyr wedi dweud wrth 大象传媒 Cymru eu bod yn ystyried gwneud cwyn yn erbyn Plaid Cymru i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ryddhau manylion y g诺yn i Mr McEvoy heb ganiat芒d.
Ym mis Medi, honnodd Mr McEvoy fod "ymgyrch i geisio niweidio fy enw da gan y sefydliad".
"Ni fyddaf yn derbyn unrhyw honiadau anghywir," meddai.