大象传媒

Protestiadau wrth i brisiau Trenau Arriva Cymru godi

  • Cyhoeddwyd
Trenau Arriva CymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pris tocyn tr锚n yn uwch o ddydd Mawrth ymlaen, gyda phrisiau'n codi fwy eleni nag yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae grwpiau teithwyr ac ymgyrchwyr yn dweud bod y cynnydd o 3.4% ar gyfartaledd yn annheg o ystyried bod y dreth ar danwydd wedi'i rhewi - ac nad yw incwm pobl yn codi ar yr un raddfa.

Bydd prisiau gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn codi 3.3%.

Dywedodd Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Prydain eu bod yn buddsoddi yn y gwaith moderneiddio mwyaf o'i fath i'r rhwydwaith drenau ers oes Fictoria, a bod 97 ceiniog o bob punt sy'n cael ei dalu gan deithwyr yn cael ei wario ar y rheilffyrdd.

Ond mae aelodau o gr诺p sy'n cynrychioli buddiannau teithwyr, Railfuture, yn honni petai prisiau wedi cael eu cysylltu gyda'r Mynegai Pris i Ddefnyddiwr (y CPI) ers 2004 y byddai'r gost 17% yn is erbyn hyn.

Un enghraifft o'r codiad mewn prisiau tocyn tymor ydy'r siwrne rhwng Castell Nedd a Chaerdydd, fydd yn codi 拢56 eleni i 拢1,708.

Cafodd protestiadau eu cynnal mewn nifer o orsafoedd trenau ddydd Mawrth, gan gynnwys yng ngorsaf Caerdydd Canolog.