Nia Ceidiog: Y nain sy'n codi pwysau
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n nain oedd yn gyfrifol am greu cyfres deledu eiconig, ond does ganddi hi ddim ofn profiadau newydd.
Dyna'n rhannol pam y penderfynodd y cynhyrchydd teledu Nia Ceidiog, yn 63 oed, gystadlu mewn cystadleuaeth corff lunio ('bodybuilding').
Mae Nia yn adnabyddus am lunio rhai o gymeriadau poblogaidd y gyfres Sam T芒n ond roedd yr hyn oedd yn ei disgwyl yn yr Xplosive Ape Grand Prix yn Birmingham yn dra gwahanol i fywyd ym Montypandy.
Roedd hi ymhlith y cystadleuwyr hynaf o blith y 300 oedd yn cystadlu. Meddai Nia:
"O'n i'n edrych am sialens newydd ac ar yr un pryd wedi fy nghosi gan y syniad o bodybuilding gan fod o'n faes nad o'n i'n gwybod unrhyw beth amdano. Dwi wir ddim eisiau stopio cael profiadau newydd a be' bynnag dwi'n 'neud dwi'n ei 'neud o gant y cant."
Bydd cyfle i weld sut hwyl gafodd Nia yn yr adran Bikini Masters i'r cystadleuwyr dros 35 oed yn Dim ond Rhif ar S4C ar 9 Ionawr.
"Dwi eisiau dangos be sy'n bosib ei gyflawni mewn unrhyw oed, a dwi eisiau codi'r ymwybyddiaeth yngl欧n 芒'r manteision iechyd o ymarfer corff drwy godi pwysau."
Trobwynt
Penderfynodd Nia newid ei ffordd o fyw adeg priodas ei mab wyth mlynedd yn 么l. Roedd hi'n gwisgo dillad maint 16 ac fe wnaeth hi droi at ioga ac ymarfer corff.
"Ro'n i'n ddynes dan straen yn fy 50au, ac yn cyflogi rhwng wyth a 12 person mewn cwmni cynhyrchu. Ro'n i'n gweithio'n rhy galed ac yn trin hyn drwy yfed gwin a bwyta prydau parod.
"Hefyd, mae pobl ein cenhedlaeth ni yn byw yn h欧n a 'nes i feddwl am y posibilrwydd o fyw am 30 mlynedd arall - ac felly dwi eisiau mwynhau'r blynyddoedd hynny gan osgoi'r effeithiau y gall ddod efo heneiddio.
"Nes i ddod yn fwy iach drwy ymarfer corff ac astudio diet iach drwy naturopathy, ac fe wnaeth ioga ddysgu llawer i mi am fy hun hefyd."
Aeth Nia i India i astudio ioga, ac mae hi bellach yn dysgu ioga i eraill.
"Ro'n i lawr i maint dillad 12 erbyn Hydref 2016 gyda ffitrwydd eithaf da, ond roeddwn i eisiau trio rhywbeth anarferol. Do'n i ddim yn gwneud lot o chwaraeon yn yr ysgol, a doeddwn i ddim yn hapus yn fy nghroen fy hun.
"Nes i ddewis godi pwysau, sy'n canolbwyntio ar aesthetics y corff. Roedd hyn yn apelio'n fawr felly nes i fynd ati i gysylltu efo bobl fysa'n gallu fy helpu.
Camu o'r tywyllwch
"Mae wedi bod yn dipyn o her ac mae 'na adegau tywyll wedi bod ar hyd y siwrne. Fe wnaeth hyn imi deimlo'n eithaf s芒l felly fe newidiais i fwyta powdr protein o blanhigion, pysgod ac wyau."
Dros y misoedd diwethaf mae Nia wedi bod yn ymarfer chwe diwrnod yr wythnos ac wedi cadw at ddiet llym heb siwgr, sydd hefyd yn golygu dim ffrwythau.
"Profiad cymysg iawn oedd yr ymarfer. O'n i'n gymharol gryf pan o'n i'n dechrau ond mi ddoth y pwysau trwm yn sioc i'n system i ac mi oedd sawl tro lle wnes i bron rhoi'r ffidil yn y to.
"Mae bodybuilding yn gyfuniad o gamp a chelfyddyd ac o waith caled a chreadigrwydd - dyna oedd yn apelio ata i. Mae'r rhan fwyaf o bobl wrth fynd yn h欧n yn mynd yn negyddol am be maen nhw'n gallu neud ac yn cychwyn meddwl 'fedrai ddim'.
"Ond fy lein i ar 么l cyflawni hyn yw 'mentraf, medraf' ac 'o fentro, dwi'n medru' - dwi 'di profi hynny felly be arall sy o'm mlaen?"
Dim Ond Rhif, S4C, Nos Fawrth, 9 Ionawr, 21:30
Efallai o ddiddordeb...