大象传媒

Pryder am gau canghennau Barclays Dinbych a Rhuthun

  • Cyhoeddwyd
Barclays RuthunFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y gangen yn Rhuthun yn cau ym mis Ebrill

Mae banc Barclays wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei ganghennau yn Ninbych a Rhuthun, gan achosi pryder y bydd yr ardal heb fanc o gwbl cyn hir.

Bydd y canghennau'n cau ym mis Ebrill, gyda'r cwmni'n dweud bod mwy yn bancio ar-lein yn hytrach nag ymweld 芒 changen.

Dywedodd y gallai cwsmeriaid ddefnyddio banciau yn Yr Wyddgrug, Llangollen, Y Rhyl a Phrestatyn, neu ddefnyddio rhai gwasanaethau mewn swyddfeydd post.

Mae gwleidyddion Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi mynegi pryder y bydd cau'r canghennau yn cael effaith negyddol ar fusnesau'r ardal.

Mae banc NatWest eisoes wedi cau canghennau yn Sir Ddinbych.

Dywedodd AC Plaid Cymru ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru, Ll欧r Gruffydd: "Yn nhermau canol y trefi, mae'n anochel y bydd cau'r canghennau yma'n cael effaith ar nifer yr ymwelwyr am fod llai o bobl yn dod i ganol y dref i ddefnyddio'r banc.

"Beth yw'r goblygiadau ar gyfer busnesau eraill canol y dref?

"Wrth i'r banciau gefnu ar ein trefi, mae angen i ni ddatblygu banc y bobl ar frys yng Nghymru, fydd yn darparu'r gefnogaeth mae busnesau bach a chwsmeriaid ei angen."

Mae AC Ceidwadol Gorllewin Clwyd, Darren Millar hefyd wedi trydar yn dweud ei fod wedi mynnu cyfarfod gyda Barclays yngl欧n 芒'r penderfyniad.