Cronfa 拢50m i helpu cwmn茂au Cymru baratoi cyn Brexit
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa gwerth 拢50m i helpu busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru gynllunio a pharatoi ar gyfer Brexit.
Yn 么l y Prif Weinidog Carwyn Jones bydd Cronfa Bontio'r UE yn "helpu i fynd i'r afael 芒'r heriau sydd o'n blaenau" ac yn berthnasol i'r meysydd sydd wedi eu datganoli.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cyngor i gwmn茂au a mudiadau wrth i'r DU baratoi i adael yr UE.
Dywedodd yr AC Ceidwadol Mark Isherwood bod y cyhoeddiad yn "gam i'r cyfeiriad cywir" ond fe gyhuddodd Llywodraeth Cymru o fod "wedi'i pharlysu" mewn perthynas 芒 Brexit.
Roedd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood eisoes wedi galw am gronfa gwerth 拢30m i helpu "lliniaru unrhyw sioc 么l-Brexit".
Bydd cronfa Llywodraeth Cymru hefyd yn helpu cwmn茂au i barhau i ddenu dinasyddion o'r UE i weithio yng Nghymru, a bydd cefnogaeth benodol ar gyfer y diwydiant amaeth.
Dywedodd Mr Jones: "Mae Brexit yn codi heriau a chyfleoedd gwahanol ar gyfer pob agwedd ar fywyd yng Nghymru - o'n busnesau lleol a'n prif gyflogwyr, i'n ffermwyr, ein hysbytai a'n prifysgolion.
"Mae'r gronfa wedi'i datblygu mewn partneriaeth 芒'n busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus a bydd yn darparu cymorth arloesol a phenodol a fydd yn eu helpu i oroesi, ac yn wir i ffynnu y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
"Fy mlaenoriaeth yw sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi 芒'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw.
"Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu atebion sy'n gweithio yng Nghymru, a byddwn ni'n parhau i gydweithio 芒 phartneriaid i fanteisio ar bob cyfle."
Cymru 'ar ei h么l hi'
Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru y bydd 拢10m ar gael yn syth.
Bydd gweddill yr arian yn cael ei ryddhau yn 么l yr angen drwy'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae canran o'r arian yn ganlyniad i addewid yng nghyllideb Llywodraeth y DU i neilltuo 拢3bn i baratoi ar gyfer Brexit.
Mae disgwyl i'r DU adael yr UE ym mis Mawrth 2019, a bydd trefniadau'r cyfnod pontio gael eu cyhoeddi nes ymlaen eleni.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi neilltuo 拢5m ychwanegol ar gyfer paratoadau Brexit fel rhan o gytundeb dwy flynedd gyda Phlaid Cymru ar y gyllideb.
Dywedodd llefarydd Brexit y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood: "Mae hwn yn gam bach i'r cyfeiriad cywir ond yn anffodus i Gymru, ers y refferendwm, mae'r prif weinidog a'i lywodraeth wedi'i pharlysu, sydd wedi sicrhau bod ein gwlad gam ar ei h么l hi."