Pris tollau pontydd Hafren yn gostwng am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'n costio llai i groesi pontydd Hafren o ddydd Llun ymlaen wedi i'r ddwy bont sy'n cysylltu de Cymru a de orllewin Lloegr gael eu trosglwyddo i ddwylo cyhoeddus.
Dyma'r tro cyntaf erioed i bris y doll ostwng ar 么l i'r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo am hanner nos.
Gan mai Llywodraeth y DU sydd bellach yng ngofal y ddwy bont does dim TAW, ac maen nhw wedi cyhoeddi y bydd y tollau'n cael eu diddymu'n llwyr erbyn diwedd y flwyddyn.
Yn 么l Paul Flynn, AS Casnewydd a chyn-lefarydd Llafur ar Gymru, dylai'r tollau ddod i ben yn syth.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod diddymu'r tollau'n flaenoriaeth i leihau costau a "chreu cyfleon newydd i fusnesau a buddsoddwyr".
Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yr arian yn help i ddod 芒'r broses o dalu tollau i ben, ac i dalu am waith cynnal a chadw.
O 8 Ionawr pris y tollau yw:
Ceir - 拢5.60 yn lle 拢6.70;
Bysiau bach a faniau - 拢11.20 yn lle 拢13.40;
Lor茂au a bysiau mwy - 拢16.70 yn lle 拢20.00.
Tan hanner nos ddydd Sul cwmni Severn River Crossing PLC oedd yn gyfrifol am y ddwy bont, a bob mis roedden nhw'n derbyn rhwng 拢8m a 拢10m drwy'r tollau.
Mae gwleidyddion Llafur o Gymru wedi dweud bod parhau 芒'r tollau wedi i'r pontydd fynd i ddwylo cyhoeddus yn "lladrad pen-ffordd".
Dywedodd yr AS Paul Flynn: "Mae Cymru wedi dioddef ers gosod y tollau gyntaf yn 1966.
"Y mis hwn dylid dod 芒'r tollau i ben, dyw parhau 芒 nhw ddim yn deg."
Ychwanegodd: "Mae'r ddwy bont wedi'u talu amdanynt ac y mae croesi'r Hafren yn rhan o system y ffyrdd ac felly i fod am ddim."
Mae tua 25 miliwn o deithiau'n cael eu gwneud ar draws y ddwy bont bob blwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru'n amcangyfrif y bydd economi Cymru yn elwa o tua 拢100m y flwyddyn pan fydd y tollau wedi'u diddymu.
'Cyfle i fusnesau a buddsoddwyr'
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, mai ei flaenoriaeth ef oedd diddymu'r tollau.
Dywedodd: "Bydd hyn, nid yn unig yn gwneud teithio yn rhatach i deithwyr ac ymwelwyr, ond hefyd yn creu cyfleon newydd i fusnesau a buddsoddwyr a fydd am ymsefydlu yng Nghymru.
"Bydd y cyfan yn hwb i gyflogaeth yng Nghymru ac yn sefydlu perthynas hirdymor rhwng econom茂au a chymunedau de Cymru a de orllewin Lloegr gan greu coridor naturiol o Gaerdydd, drwy Gasnewydd i Fryste."
Mae'r ysgrifennydd gwladol wedi trefnu cyfarfod ddiwedd y mis ar gyfer y gymuned fusnes y ddwy ochr i afon Hafren.
Dywedodd Elgan Morgan o Siambr Fasnach de Cymru wrth raglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru bod diddymu'r tollau yn gyfle mae'n rhaid manteisio arno.
"Mae'n rhaid i ni weithio, nid dim ond gyda de Lloegr ond ledled y byd ac os ydyn ni'n mynd i gael yr agwedd ein bod ni am werthu i ni'n hunain dyw'r economi ddim yn mynd i symud ymlaen," meddai.
Ond dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd mewn neges ar Twitter ei fod yn benderfyniad "cibddall", ac y byddai modd cynnal benthyciadau gyda'r "incwm o 拢100m y flwyddyn o'r tollau".
'Gwrando o'r diwedd'
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Economi a Thrafnidiaeth Cymru, wedi dweud: "Ry'n wedi gofyn sawl gwaith i Lywodraeth y DU gael gwared 芒 thollau pontydd Hafren ac ry'n yn falch fod y llywodraeth o'r diwedd wedi gwrando."
Ychwanegodd: "Ry'n er hynny yn holi pam nad yw'r tollau yn dod i ben yn syth wedi i'r ddwy bont gael eu trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus?"
Agorodd y Frenhines y bont gyntaf a gostiodd 拢8m yn 1966 ac agorwyd yr ail bont yn 1996. Cafodd y bont honno ei hariannu gan gonsortiwm preifat ac mae wedi derbyn ad-daliadau sylweddol drwy log a threthi.
Mae cost cynnal a chadw y ddwy bont oddeutu 拢15m ar gyfartaledd ac mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd parhau 芒'r tollau am gyfnod yn help i dalu y costau hynny.
Dywedodd datganiad gan Lywodraeth y DU: "Rhwng y cyfnod o drosglwyddo'r berchnogaeth ar 8 Ionawr a diddymu'r tollau, mae Highways England yn disgwyl casglu digon o arian i dalu am y broses o gael gwared 芒'r tollau, ac adfer y costau y mae trethdalwyr, yn hanesyddol, wedi bod yn eu talu am gynnal y pontydd.
"Bydd y tollau yn cael eu diddymu cyn diwedd 2018."
'Ansicrwydd staff'
Mae'r 180 aelod o staff Severn River Crossing wedi'u trosglwyddo i weithio i Highways England ond wrth i'r tollau gael eu diddymu cyn diwedd y flwyddyn mae 'na ofnau y bydd 115 o staff yn colli eu swyddi.
Mae Severn River Crossing PLC wedi gwario 拢228m ar gynnal a chadw y ddwy bont yn y chwarter canrif ddiwethaf, ac mae'r t卯m yn hyderus y bydd Highways England yn eu defnyddio i barhau i wneud y gwaith.
Yn y cyfamser mae ofnau y bydd cael gwared 芒'r tollau yn arwain at godi prisiau tai yn Sir Fynwy.
Wrth gael ei holi gan raglen y Post Cyntaf dywedodd Diana Waite o gwmni Bidmead Cook fod y cwmni eisoes yn gweld diddordeb yn cynyddu yr ochr draw i afon Hafren.