Mandy Jones ddim yn ymuno 芒 gr诺p UKIP yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae UKIP wedi dweud eu bod wedi penderfynu'n "unfrydol" na fydd Aelod Cynulliad newydd Gogledd Cymru yn ymuno 芒'u gr诺p nhw yn y Cynulliad.
Cafwyd cadarnhad fis Rhagfyr y byddai Mandy Jones yn cymryd lle Nathan Gill yn y Senedd, wedi i'r AC annibynnol gyhoeddi y byddai'n camu o'r neilltu.
Roedd Mr Gill wedi ei ethol dan faner UKIP yn 2016 cyn troi'n aelod annibynnol, gan olygu mai Ms Jones, oedd yn ail ar restr y blaid yn rhanbarth y gogledd, fyddai'n ei olynu.
Ond dywedodd gr诺p UKIP yn y Cynulliad na fyddan nhw'n gadael iddi ymuno 芒 nhw, a hynny oherwydd y staff mae hi wedi dewis eu cyflogi.
'Tanseilio UKIP'
Roedd y staff sydd bellach yn gweithio i Ms Jones ym Mae Caerdydd yn arfer gweithio i Mr Gill.
Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd UKIP yng Nghymru: "Wedi trafodaethau gyda Mandy Jones, AC Gogledd Cymru, rydym wedi penderfynu ar y cyd ac yn unfrydol na fydd hi'n ymuno 芒 gr诺p UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol.
"Er i bum aelod y gr诺p ofyn iddi beidio, mae hi wedi dewis cyflogi unigolion yn ei swyddfa sydd un ai'n aelodau o bleidiau eraill, neu wedi bod yn ymgyrchu'n ddiweddar dros bleidiau eraill, neu'r ddau."
Mae'r blaid hefyd wedi honni fod yr aelodau staff hynny wedi "sarhau ACau UKIP yn bersonol a chyhoeddus" a cheisio "tanseilio UKIP Cymru".
"Mae eu hymddygiad a'u hagwedd yn ei gwneud hi'n amhosib gweithio gyda Mandy Jones ar sail hyder ac ymddiriedaeth," meddai'r datganiad.
Dywedodd llefarydd ar ran UKIP y gallen nhw ailystyried eu penderfyniad pe bai Ms Jones yn cyflogi aelodau staff y gallai'r gr诺p "ymddiried ynddyn nhw a gweithio gyda nhw".
Ychwanegodd fod y gr诺p cyfan wedi cytuno ar y penderfyniad, ac nad yr arweinydd Neil Hamilton yn ceisio corddi pethau rhyngddo fe a Mr Gill unwaith yn rhagor oedd hyn.
Mewn datganiad dywedodd Mandy Jones ei bod hi wedi ei dewis llynedd fel ymgeisydd UKIP a'i bod yn "falch o gymryd fy sedd yn y Cynulliad i gynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru yn unol 芒 dymuniadau'r etholwyr ym Mai 2016".
"Dyw fy ngwleidyddiaeth i heb newid ac rydw i'n parhau'n aelod o UKIP. Fe fyddai nawr yn ceisio bod yn llais dros y rhanbarth heb unrhyw ymyrraeth bellach."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2017