大象传媒

35% yn fwy o geir trydan wedi eu cofrestru yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
ceir trydanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynnydd o 35% wedi bod yn nifer y ceir trydan a hybrid newydd sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru yn ystod 2017, yn 么l un gr诺p moduro.

Mae Cymru ar y blaen o'i gymharu 芒 chyfartaledd y DU, sydd wedi gweld tyfiant o 27%, yn 么l sefydliad Go Ultra Low.

Dywedodd y sefydliad, sy'n ymgynghori'r llywodraeth a'r diwydiant ceir yn y DU, ei bod wedi bod yn "flwyddyn nodedig".

Dywedodd Sefydliad RAC fod y ffigyrau'n newyddion da, ond yn parhau i fod yn "ffracsiwn bach" o gyfanswm y ceir sydd ar y ffyrdd.

1.83% o'r holl draffig

Sir Powys welodd y cynnydd canrannol uchaf yng Nghymru, gyda 66.7%, ac roedd cynnydd o 53.3% yng Nghaerdydd a Phenarth.

Ond mae nifer y ceir trydan yng Nghymru yn parhau i fod yn isel - mae'r cynnydd mewn cofrestriadau yn gynnydd o 565 yn 2016 i 760 yn 2017.

Mae tua 2,500 o gerbydau trydan plug-in wedi eu cofrestru yng Nghymru, gyda 439 o bwyntiau trydan wedi eu lleoli ledled Cymru, meddai Go Ultra Low.

Dywedodd adroddiad o fis Mehefin 2017 ar gyfer yr RAC fod 4,476 o safleoedd trydan ar gael ledled y DU, gyda 12,849 o gysylltwyr unigol.

Dywedodd Poppy Welch, pennaeth Go Ultra Low, fod cerbydau trydan yn cynrychioli 1.83% o holl draffig y DU, ond bod y rhagolygon yn gadarnhaol.

"Mae'r niferoedd yn tyfu. Rydyn ni wedi codi 27% ers y llynedd, sy'n gynnydd eithaf iach," meddai.

Ychwanegodd: "Dros y blynyddoedd nesaf, mae cynhyrchwyr yn dod 芒 mwy o fodelau allan. Mae seilwaith yn gwella ac mae'r llywodraeth am weld diwedd cerbydau petrol erbyn 2040.

"Mae pethau'n bendant yn mynd i'r cyfeiriad cywir. Mae llawer o'r pryderon yn ymwneud 芒 seilwaith sy'n diwallu gofynion cerbydau trydan."

Pryderon yn parhau

Dywedodd Philip Gomm o'r RAC: "Rydyn ni i gyd am weld y cerbydau mwyaf gl芒n ar ein ffyrdd, ac ar yr olwg gyntaf mae'r newyddion hyn yn newyddion da, ond mae angen i ni gadw pethau mewn persbectif.

"Mae'r cerbydau yma yn parhau i fod yn ffracsiwn bach iawn o'r fflyd ceir yng Nghymru, sydd tua 1.5 miliwn.

"Er bod nifer y modelau gwyrdd yma sydd ar gael yn cynyddu, mae pryderon defnyddwyr yn parhau am y costau, sef y pris manwerthu, ail-lenwi, a gwerth gweddilliol."